Oeddech chi’n gwybod am y tro cyntaf erioed y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r senedd y flwyddyn nesaf?
Byddant ond yn gallu pleidleisio os ydynt wedi cofrestru felly helpwch gyda hyn drwy wneud yn siŵr bod unrhyw un 14 oed a hŷn nawr yn cael eu hychwanegu at y gofrestr ac wedi cofrestru ar-lein.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Rydym yn diweddaru’r gofrestr ar hyn o bryd a byddwch yn derbyn llythyr Canfasio Blynyddol a anfonir i bob tŷ ar draws Wrecsam. Felly gynted ag y byddwch yn derbyn y ffurflen, gwiriwch y manylion i weld os byddwch angen gwneud unrhyw newidiadau os gwelwch yn dda. Gallwch weld sut i ymateb isod:
- Os na fydd eich manylion ar eich ffurflen wedi newid, ewch i www.householdresponse.com/wrexham;, ffoniwch 0800 197 9871 neu anfonwch y neges destun NOCHANGE gan gynnwys eich cod diogelwch at 80212 – codir tâl safonol.
- Os oes angen diweddaru eich manylion neu os oes angen ychwanegu neu gael gwared ar unrhyw beth, ewch i www.householdresponse.com/wrexham; i wneud y newidiadau angenrheidiol. Unwaith y gwnaed hyn dylai pobl newydd gofrestru’n unigol yn www.gov.uk/register-to-vote
- Fel arall, diwygiwch/cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd atom ni, ond bydd angen i unrhyw bobl newydd a ychwanegwyd gael eu cofrestru’n unigol yn www/gov.uk/register-to-vote.
Os nad ydych yn gallu cofrestru ar-lein, byddwch yn derbyn ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru i’w chwblhau. Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen byddwch wedi cofrestru i bleidleisio.
Os nad ydych wedi derbyn ffurflen i’w llenwi eto, mae hynny’n golygu fod eich manylion yn cyd-fynd â’r rhai sydd gan Yr Adran Gwaith a Phensiynau ar eich cyfer. Os mai dyma’r achos, byddwch yn derbyn llythyr ar ddiwedd mis Awst, a chyn belled â bod dim wedi newid, ni fydd yn rhaid i chi ymateb.
YMGEISIWCH RŴAN