Bydd digwyddiad unigryw sy’n ceisio hyrwyddo’r Gymraeg yn dod i Wrecsam ar 4 Gorffennaf.
Bydd hyd at 200 o redwyr yn rhedeg trwy ganol y dref fel rhan o Ras yr Iaith i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a chodi arian ar gyfer gweithgareddau a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg ar hyd a lled y wlad.
Mae hyn yn golygu y bydd y ffyrdd yng nghanol y dref wedi’u cau ar gyfer llwytho/dadlwytho a pharcio rhwng 9.00am a 11.00am er diogelwch y rhedwyr.
Y llwybr y bydd y rhedwyr yn ei gymryd yw o Lwyn Isaf i Stryt y Lampint, ar hyd Ffordd Caer, i fyny’r Stryd Fawr i Stryt yr Hôb, ar hyd Stryt yr Hôb i Stryt Argyle ac ar draws Sgwâr y Frenhines.
Bydd marsialiaid traffig ar gyffordd Ffordd Caer/Stryt Holt, cyffordd Stryt Yorke/Stryd Fawr, cyffordd Stryt Y Rhaglaw/Stryt yr Allt a chyffordd Ffordd Rhosddu/Stryt Egerton i sicrhau na all traffig fynd ar hyd y llwybr tra bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn gwybod y bydd hyn yn achosi rhywfaint o anghyfleustra ond mae er budd achos da ac mae’n wych gweld canol y dref yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau o’r fath.”
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL