Mae busnesau ar draws Cymru eisoes yn elwa o gefnogaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau a gwella sut maent yn defnyddio technoleg ar-lein.
Os ydych chi’n fusnes bach yn Wrecsam, fe allech ddysgu sut i leihau costau, rhoi hwb i’ch elw, arbed amser, cyrraedd mwy o gwsmeriaid, cynyddu masnach ryngwladol, symleiddio rheoli a thyfu!
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON
Bydd dau ddigwyddiad yn cael eu cynnal yn Wrecsam:
- SEO i Dyfu’ch Busnes, 8.30am – 1.00pm, 12 Medi, Ystafell yr Atriwm, Tŵr Rhydfudr, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9XT
- SEO i Dyfu’ch Busnes, 8.30am – 1.00pm, 26 Tachwedd, Hwb Menter Wrecsam, 11-13 Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AT
Mae’r digwyddiadau yma’n rhad ac am ddim.
Nod digwyddiadau SEO i Dyfu’ch Buses ydi gwella gwelededd eich busnes er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i chi!
Byddwch yn dysgu…
- Sut mae peiriannau chwilio yn sgorio eich gwefan
- Teclynnau sylfaenol i fonitro a gwella eich gweithgareddau SEO megis Google Analytics
- Sut i adnabod y prif eiriau/brawddegau gorau ar gyfer eich busnes
- Sut i greu cynllun gweithredu SEO a strategaeth hir dymor
- Argymhellion a thechnegau effeithiol i wella eich SEO
- Sut i fesur yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim yn gweithio
- Ymchwilio i eiriau allweddol gan ddefnyddio Google Ads Keyword Planner
- Platfformau datblygu gwefannau megis WordPress a/neu Wix
Mae yna lawer o ddigwyddiadau’n digwydd yng ngogledd Cymru, tarwch olwg arnynt yma
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN