Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod na ddylai bwyd fyth fynd i’r bin sbwriel, y realiti yw bod chwarter cynnwys biniau gwastraff cyffredinol ein cartrefi yn wastraff bwyd. Mae hynny’n ddigon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr bob blwyddyn. Yn syfrdanol, gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% o’r bwyd hwn, gan gostio £89 y mis i’r aelwyd gyffredin o 4 person. Wff!
Rydyn ni’n cefnogi ymgyrch gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd Rhif 1 yn y byd am ailgylchu, ac mae angen eich help CHI arnom i gyrraedd yno!
Dilynwch y tips syml hyn i ddarganfod beth allwch ei wneud, yna gwnewch yr addewid i ennill gwobrau (darllenwch fwy i ddarganfod sut). Fe wnewch chi hefyd arbed amser ac arian i chi’ch hun. Rydych chi ar eich ennill bob ffordd!
- Byddwch yn greadigol gyda’r bwyd sydd dros ben gennych
Weithiau, gall bywyd fod yn brysur, ac mae’n rhaid inni wneud ein gorau gyda’r bwyd sydd ar gael i osgoi ei wastraffu. Beth am ei weld fel her hwyliog! Defnyddiwch y tameidiau olaf yn eich oergell i roi hwb sydyn a chreadigol i’ch prydau bwyd.
Gyda thymor pwmpenni yn ei anterth, beth am droi’r darnau bwytadwy hynny’n ffriterau, cyri, neu hyd yn oed smwddi, yn hytrach na gadael iddyn nhw fynd yn wastraff? Mae’r un peth yn wir am y llysiau angof hynny, cig rhost ddoe, neu ffrwythau aeddfed – mae tostis, omledi, a phwdinau iogwrt ymysg y syniadau blasus i’w defnyddio! Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio bwyd cyn iddo sbwylio’n foddhaus, yn flasus, ac yn garedig i’ch waled a’r blaned.
- Os na ellir ei fwyta fe, ailgylcha fe
Peidiwch anghofio’r darnau anfwytadwy hynny – fel crwyn bananas, plisg wyau, a gwaddodion coffi – dylid eu hailgylchu bob amser. O fagiau te, esgyrn, crwyn banana neu hyd yn oed fwyd wedi llwydo sydd heibio’i ddyddiad – dim ots pa mor ych a fi – dylai’r cwbl fynd i’r bin bwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Bydd pob aelwyd yn gwastraffu rhywfaint o fwyd – fel crwyn llysiau ac esgyrn, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y pethau yma’n cael eu hailgylchu.
“Yn Wrecsam, rydym yn darparu cadis a bagiau bwyd am ddim i’w gwneud yn hawdd i bawb ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae’n dda bod rhai pobl yn manteisio ar y gwasanaeth hwn ac ailgylchu, ond mae digonedd o le i wella o hyd, ac mae angen i ni wneud yn well.
“Byddwn ni’n rhannu awgrymiadau a chyngor am sut i ddefnyddio eich bwyd dros ben dros yr wythnosau nesaf felly cadwch olwg am hyn, gallai helpu i arbed arian i chi a’ch teulu.”
Gwnewch addewid i achub eich bwyd o’r bin sbwriel ac ENNILL
Gwnewch addewid i helpu Cymru gyrraedd Rhif 1, a gallech ennill gwyliau bythgofiadwy i chwech o bobl yn Bluestone Resort neu fynediad am ddim i atyniadau pennaf Cymru, fel Folly Farm, Zip World Tower, Plantasia, Royal Mint Experience, y Sw Fynydd Gymreig, neu Cadw!
Ewch draw i Cymru yn Ailgylchu i gymryd rhan.
P’un ai gartref, neu allan o amgylch y lle ydych chi, mae’n amser bod yn ddoeth gyda gwastraff bwyd.
Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle – beth am rannu eich tips arbed bwyd?
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.
Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?
Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.