Polskie Português عربي தமிழ் සිංහල
Mae Tŷ Pawb yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan artistiaid dwyiethog (neu amlieithog) i gyflwyno sesiynau misol fel rhan o’n Clwb Celf i’r Teulu.
Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon
Amdanom Ni
Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwyllianol, sy’n dod a’r celfyddau a marchnadoedd ynghyd. Mae’r cydfodolaeth hwn yn dathlu yr arwyddocad marchnadoedd o fewn treftadaeth ddiwyllianol a hunaniaeth Wrecsam. Tŷ Pawb yw ofod ar gyfer deialog o gwmpas pynciau sy’n cynwus materion cymdeithasol a dinesig fel yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth diwyllianol, cynaliadweydd ac addysg.
Cefndir
Mae Clwb Celf i’r Teulu wedi bod yn rhan o rhaglen Tŷ Pawb ers ein lansiad, gan gynnig cyfle i deuluoedd ymgysylltu a gwneud creadigol dan arweiniad artistiaid bob bore Sadwrn yn ystod y tymor. Mae’r clwb yn annog gwneud nid yn unig are gyfer plant, ond ar gyfer rhieni a gofalwyr hefyd. Mae’r clwb yn cael ei gynnig ar sail ‘talu beth allwch chi’.
Fel rhan o’n cenhadaeth barhaus i adlewyrch ac ymgysylltu efo chymunedau amrwyiol Wrecsam, rydym yn newid fformat Clwb Celf i’r Teulu i ymgorffori ystod ehangach o ieithoedd, nid Cymraeg a Saesneg yn unig.
Y Prosiect
Bydd Clwb Celf Teulu Amlieithog yn croesawu teuluoedd o bob cefndir i gymryd rhan. Tra bod y pwyslais ar gelf, bydd sesiynau yn cael eu cynnig yn ddwyieithog, i rhoi cyfle i deuluoedd gymryd rhan yn iaith gyntaf/ychwanegol yr artist neu yn Saesneg. Dylent gynnwys siaradwyr iaith gyntaf a dechreuwyr, gyda phwyslais ar gael hwyl a ‘rhoi cynnig arni’ dros addysgu Saesneg neu iaith arall yn ffurfiol.
Bydd pedwar artist yn cyflwyno’r rhaglen, gyda phob un yn arwain un sesiwn y mis. Bydd artistiaid yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod gweithgareddau yn cynnig digon o amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau i deuluoedd roi cynnig arnynt.
Manyleb Person
- Wedi cofrestu’n hunangyflogedig ac yn gymwys i weithio yn y DU
- Gallu cyfathrebu i safon dda yn Gymraeg neu Saesneg yn ogystal a gallu cyfathrebu i safon dda mewn iaith arall.
- Profiad efo ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau celfyddau cyfranogol creadigol o ansawdd uchel i blant, gan gefnogi gwahanol anghenion a galluoedd o fewn amgylchedd grwp.
- Ymdrechu i greu profiad dysgu cynnes, croesawgar ac ysbrydoledig ar gyfer ystod amrywiol o deulueodd.
- Wedi ymrwymo i gynnal ein gweithdrefnau polisi diogelu i sicrhau lles a diogelwch ein cyfranogwyr.
- Mae’r rol hon ym amodol ar wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd / Enhanced Disclosure and Barring Service (DBS)
Canlyniadau
I ddarparu cynlluniau sesiwn ymlaen llaw i’r Cydlynydd Ymgysylltu â’r Celfyddydau.
I sicrhau bod offer a deunyddiau priodol yn cael eu paratoi cyn y sesiynau, (gyda chymorth gan ofalwyr Tŷ Pawb yn sefydlu byrddau a chadeiriau).
Er mwyn ymchwilio, dylunio a chyflwyno 6 gweithdy creadigol, dylai’r rhain:
- Cael eich ysbrydoli gan amrywiaeth ddiwylliannol Wrecsam neu Wrecsam fel Y Prifddinas Chwarae
- Cynnwys ystod o ffurfiau celf, technegau a
- Yn addas i deuluoedd gyda phlant 4-11 oed
- Yn gynhwysol i bawb sy’n cymryd rhan waeth beth fo’u gallu iaith
I gasglu a chofnodi gwybodaeth ar gyfer ein hymrwymiadau adrodd, gan gynnwys:
- Niferoedd presenoldeb cyfranogwyr
- Adborth cyfranogwyr
- Ffurflenni caniatâd lluniau a ffotograffau o’r sesiynau (y ddau i’w darparu i’n Swyddog Marchnata)
Sicrhau bod y Cwpwrdd Defnyddiol y Lle Celf a Chlwb Celf i Deuluoedd yn cael eu dychwelyd i gyflwr da ar ddiwedd y sesiwn, a bod yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu storio’n ddiogel ac yn daclus.
I gydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch, diogelu a’r amgylchedd Tŷ Pawb, ac i drin pawb sy’n rhan o’r prosiect mewn modd parchus a chyfarpar.
Llinell amser a Ffi
Rydym yn edrych i ddarparu cyfanswm o 40 sesiwn ar draws 2023/24.
Golyga hyn y bydd pob artist sy’n rhan o’r prosiect yn darparu 10 sesiwn yr un ar gyfradd o £125 y sesiwn, gan arwain at gyfanswm o £1250.
Yn ogystal, bydd pob artist yn rheoli cyllideb prosiect o hyd at £250 i dalu am unrhyw ddeunyddiau neu gyfarpar arbenigol sydd ddim ar gael yn Tŷ Pawb eisoes.
Bydd Clwb Celf Teulu Amlddiwylliannol yn cael ei lansio dydd Sadwrn 4ydd Chwefror.
Datgan diddordeb
I fynegi eich diddordeb yn y rôl hon, e-bostiwch CV ac unrhyw ddolenni gwe perthnasol i heather.wilson@wrexham.gov.uk Gallai dolenni gynnwys portffolio, fideos o dan 5 munud, cyfryngau cymdeithasol neu gynnwys arall sy’n dangos pa mor addas ydych chi am y rôl.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr o bob iaith ychwanegol (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain), yn enwedig y rhai a ddefnyddir fwyaf yn Wrecsam gan gynnwys Pwyleg (2.49%) a Phortiwgaleg (0.53%).
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddealltwriaeth dda o ethos Arte Util Tŷ Pawb.
Cofrestrwch rŵan