Mae’r cloc yn tician ar gyfer cynigion yn ein Cystadleuaeth Calendr sy’n dod i ben nos Sul.
Rydym wedi cael blwyddyn llawn digwyddiadau gyda llwyth o eira yn ystod y gaeaf a digon o heulwen yn yr haf, felly rydan ni’n gwybod bod gennych nifer o luniau a fyddai’n wych i’w cynnwys mewn calendr.
Gallai’r lluniau sy’n gymwys i’w cynnwys fod wedi eu cymryd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn gan ffotograffydd amatur ond mae’n rhaid iddynt fod yn rhywle o fewn y fwrdeistref sirol. Bydd 13 delwedd yn cael eu cynnwys yng Nghalendr 2019 – un ar gyfer y clawr ac un ar gyfer pob mis o’r flwyddyn. Sylwer y bydd maint y lluniau fydd yn cael eu hargraffu yn 295mm x 295mm ac felly dylai lluniau gael eu tocio i’r maint hwn neu fod yn ddigon mawr i gael eu tocio i’r maint hwn.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Unwaith eto, nid oes gwobr ond bydd y cynigion buddugol yn cael copi o Ryfeddodau Wrecsam 2019 i
ddiolch iddynt a bydd holl elw gwerthiant y Calendr yn cael ei roi i Gronfa Elusennol y Maer.
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Andy Williams: “Mae hi bron yn bryd am y beirniadu felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno’ch hoff luniau a dynnwyd dros y 12 mis diwethaf. Mae gennym olygfeydd prydferth a phensaernïaeth eiconig ac rwy’n siŵr fod digonedd o luniau gennych, yn aros i gael eu cynnig.”
Gallwch hefyd gyflwyno cymaint o ddelweddau ag y dymunwch chi, drwy eu hanfon i calendar@wrexham.gov.uk
Pob lwc!
Telerau ac amodau’n berthnasol. Gallwch eu gweld nhw
yma.
Edrychwch ar yr erthygl wreiddiol isod:
Dyma enillwyr y llynedd:
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION