Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gardd Gorwelion – Ein harddangosfa newydd, yn archwilio buddion lles natur
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gardd Gorwelion – Ein harddangosfa newydd, yn archwilio buddion lles natur
Y cyngor

Gardd Gorwelion – Ein harddangosfa newydd, yn archwilio buddion lles natur

Diweddarwyd diwethaf: 2023/01/11 at 9:45 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Horizon Garden
RHANNU

Mae’n bleser gennym gyflwyno ein harddangosfa gyntaf ar gyfer 2023.

Cynnwys
Celf Gymdeithasol, prosiectau tyfu ac artistiaid gweledol i’w cynnwysTyfu Gyda’n Gilydd

Bydd Gardd Gorwelion yn archwilio tyfu cymunedol ac amgen mewn ymateb i’r brys cymdeithasol sy’n ymwneud â newid hinsawdd, ynysu cymdeithasol, unigrwydd a thlodi bwyd.

Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon

Gan bwysleisio buddion lles natur, bydd yr arddangosfa hefyd yn ddihangfa werdd ffrwythlon a bywiog i ymwelwyr.

Celf Gymdeithasol, prosiectau tyfu ac artistiaid gweledol i’w cynnwys

Fel rhan o’r arddangosfa byddwn yn rhoi sylw i rai o brosiectau Celf Gymdeithasol a thyfu Wrecsam gan gynnwys Gardd Gymunedol Coedpoeth a Gardd Furiog Erlas, yn ogystal â Maes Parcio Creadigol Tŷ Pawb – y prosiect gardd gymunedol sy’n cael ei ddatblygu ar ein to.

Byddwn hefyd yn proffilio enghreifftiau o brosiectau Celf Ddefnyddiol/Celf Gymdeithasol cenedlaethol gan gynnwys GRAFT – gardd a man gweithdy cymunedol dan arweiniad yr artist Owen Griffiths, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (NWM) a NTH/NYA; Gardd Aeaf Granby; – man sy’n eiddo i’r gymuned a ddatblygwyd gan Grandby Four Streets a’r penseiri Assemble; a Company Drinks – man cymunedol a menter gymdeithasol yn Barking a Dagenham.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys detholiad o eitemau a fenthycwyd gan Amgueddfa Cymru.

Ymhlith yr artistiaid gweledol sy’n rhan o’r arddangosfa mae Morag Colquhoun, Harold Drinkwater, Owen Griffiths, Jackie Kearsley, Sumuyya Khader, Jonathan LeVay, Ann McCay, Aidan Myers, Peter Prendergast, Zandra Rhodes, Alessandra Saviotti, Graham Sutherland a Maurice de Vlaminck.

Tyfu Gyda’n Gilydd

Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb, Jo Marsh: “Gardd Horizon fydd arddangosfa gyntaf ein rhaglen newydd ar gyfer 2023. O dan y thema, ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’, byddwn yn cyflwyno rhaglen greadigol o berthnasedd lleol ac arwyddocâd rhyngwladol, gan ddod â gwaith o’r safon uchaf i Wrecsam, gan ddarparu cyfleoedd newid sylweddol i artistiaid Cymreig, a galluogi archwiliad diogel a chreadigol o faterion cymdeithasol cyfoes.

“Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd, byddwn yn datblygu rhaglen o weithgareddau cyhoeddus gan gynnwys gweithdai, perfformiadau ac ymgysylltu o bell, gyda ffocws arbennig ar ddatblygu partneriaethau newydd a phresennol a grymuso’r lleisiau llai eu clyw ar draws ein cymunedau amrywiol.

“Mae ein harddangosfa bresennol, Tŷ Pawb Agored, wedi derbyn dros 4,000 o ymwelwyr hyd yma, gyda llawer ohonynt wedi teithio o bob rhan o’r DU i ymweld â Wrecsam. Rydym yn gobeithio adeiladu ar hyn a denu hyd yn oed mwy o gynulleidfaoedd newydd i Ardd Horizon ac edrychwn ymlaen at agor yr arddangosfa i’r cyhoedd ddiwedd mis Ionawr.”

Bydd Gardd Gorwelion ar agor o 28 Ionawr tan 8 Ebrill 2023.

Cynhelir digwyddiad lansio cyhoeddus ddydd Gwener 27 Ionawr, 6.00pm-7.30pm – croeso i bawb.

Oriau agor yr oriel: 10am-4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn.

Cynlluniwch eich ymweliad

Cofrestrwch rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] Cofrestrwch rŵan [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Librar Dewch i Lyfrgell Wrecsam i ddathlu
Erthygl nesaf Gwahoddiad i wneud cais i fod yn rhan o Fwrdd Dros Dro Dinas Diwylliant Wrecsam Gwahoddiad i wneud cais i fod yn rhan o Fwrdd Dros Dro Dinas Diwylliant Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall Mawrth 6, 2026
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Mawrth 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English