Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gosod arwyddion dros dro i fynd i’r afael â mannau lle mae llawer o faw cŵn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gosod arwyddion dros dro i fynd i’r afael â mannau lle mae llawer o faw cŵn
Y cyngor

Gosod arwyddion dros dro i fynd i’r afael â mannau lle mae llawer o faw cŵn

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 1, 2026 9:38 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Gosod arwyddion dros dro i fynd i'r afael â mannau lle mae llawer o faw cŵn
RHANNU

Mae arwyddion rhybuddio dros dro wedi’u gosod o amgylch ardal Johnstown fel rhan o’r gwaith parhaus i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a lleihau baw cŵn mewn cymunedau lleol.

Yn dilyn dadansoddiad misol o adroddiadau am faw cŵn ar draws y Fwrdeistref Sirol, nodwyd Johnstown fel ardal lle gallai ymwybyddiaeth a phatrolau ychwanegol helpu i fynd i’r afael â phroblemau sy’n codi dro ar ôl tro.

Mae’r arwyddion dros dro yn atgoffa perchnogion cŵn y dylid cadw cŵn ar dennyn wrth ymyl y briffordd gyhoeddus, bod yn rhaid codi baw cŵn a bod patrolau gorfodi yn digwydd yn yr ardal.

Bydd yr arwyddion yn aros yn eu lle am sawl wythnos cyn cael eu symud i leoliad arall a nodir trwy waith adrodd a dadansoddi misol yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae gadael baw cŵn heb ei godi yn annerbyniol ac yn cael effaith negyddol ar ein cymunedau, ein mannau cyhoeddus a’r bobl sy’n eu defnyddio”

“Mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, ond yn anffodus mae lleiafrif bach yn parhau i anwybyddu eu cyfrifoldebau. Mae’r arwyddion dros dro hyn yn nodyn atgoffa amlwg bod yn rhaid i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn a’u cadw dan reolaeth.”

“Trwy dargedu ardaloedd a nodwyd trwy adroddiadau lleol, gallwn gymryd dull mwy penodol at godi ymwybyddiaeth, annog ymddygiad cyfrifol a helpu i gadw ein strydoedd a’n mannau cyhoeddus yn lân.”

Nod y fenter yw codi ymwybyddiaeth, annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a chynnal mannau cyhoeddus glanach, mwy diogel i bawb.

Atgoffir trigolion i gario bagiau bob amser wrth gerdded eu ci, glanhau yn syth ar ôl eu hanifail anwes, a gwaredu baw eu ci yn gyfrifol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cwblhewch yr arolwg hwn a helpwch ni i wella ein gwasanaethau – mae eich barn yn bwysig Cwblhewch yr arolwg hwn a helpwch ni i wella ein gwasanaethau – mae eich barn yn bwysig
Erthygl nesaf Ysgol Gynradd y Mwynglawdd yn dathlu ei phen-blwydd yn 175 oed gydag wythnos gofiadwy o ddigwyddiadau Ysgol Gynradd y Mwynglawdd yn dathlu ei phen-blwydd yn 175 oed gydag wythnos gofiadwy o ddigwyddiadau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English