Yn dilyn y buddsoddiad diweddar yn ein cyfleusterau a phrynu offer codi newydd i’r pwll, mae’n bleser gan Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun gyhoeddi iddynt hefyd osod offer codi symudol ynghyd â gwely newid newydd.
Bydd y cyfarpar newydd hyn ochr yn ochr â’r offer codi i’r pwll, yn sicrhau bod y cyfleusterau’n gyfleus i bawb a bydd yn helpu pobl i newid, fynd i mewn a dod allan o’r pwll nofio.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae Rheolwr y Ganolfan, David Watkin, wedi croesawu’r buddsoddiad: “Rydym yn falch dros ben gyda’r buddsoddiad ychwanegol hyn gan Freedom Leisure. Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn sicrhau bod y pwll yn gallu croesawu pawb ac yn rhoi mwy o gyfle i nofwyr yn ardal Wrecsam i fwynhau buddion ymarfer corff yn y dŵr.”
Jamie Wiffen yw un o’r nifer o gwsmeriaid a fydd yn elwa o gyfleusterau newydd Y Waun: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i nofio yn Y Waun ac rwy’n ddiolchgar iawn i dîm Canolfan Hamdden Y Waun am helpu i wireddu hyn.”
Freedom Leisure sy’n gweithredu Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun – ymddiriedolaeth hamdden elusennol nid-er-elw sy’n rheoli cyfleusterau hamdden yn yr ardal mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd pob ceiniog yn mynd nôl i’r cyfleusterau lleol i greu rhaglenni newydd a gwella cyfleusterau i’r gymuned.
Bydd Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun yn hapus i gynnig cefnogaeth, ateb unrhyw gwestiynau neu ddangos y cyfarpar i chi, cysylltwch â’r ganolfan ar 01691 778666.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH