Bydd gwaith ar osod wyneb newydd ar gylchfan Gresffordd yn cychwyn ddydd Gwener 28 Mehefin ac yn cael ei gwblhau dros nos am ddau benwythnos.
Er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwaith yn cael ei gyflawni yn ôl y bwriad, ar amser ac yn ddiogel, bydd y gylchfan ar gau tra bydd y gwaith yn cael ei gwblhau rhwng 8pm a 6am.
Bydd busnesau a thrigolion yr ardal yn cael llythyr cyn bo hir yn rhoi gwybod iddyn nhw am y gwaith, ac rydym wedi gwneud trefniadau i sicrhau bod y gwaith yn amharu cyn lleied ag sy’n bosib arnyn nhw dros y ddau benwythnos.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er y bydd y gwaith hwn yn amharu ar ddefnyddwyr ffyrdd ar y gylchfan bwysig a phrysur hon, mae’r gwaith yn angenrheidiol ac rwy’n siŵr y bydd defnyddwyr rheolaidd yn gwerthfawrogi’r canlyniadau ar ôl iddo gael ei gwblhau.”
“Manylion cau’r gylchfan“
Cau am 8pm ddydd Gwener 28 Mehefin ac ailagor am 6am ddydd Llun 1 Gorffennaf.
Cau am 8pm ddydd Gwener 5 Gorffennaf ac ailagor am 6am ddydd Llun 8 Gorffennaf.
Bydd gwasanaeth bws Rhif 1 Arriva yn cael ei amharu, ac fe gyhoeddwn ni’r manylion am hyn cyn gynted ag y gallwn ni.
Bydd posib cael mynediad at fusnesau yn Stad Ddiwydiannol Pandy a Stad Ddiwydiannol Gresffordd trwy gydol y cyfnod hwn ar hyd y B5425 Llay, Ffordd Plas Acton drwy Pandy Lane a Bluebell Lane.
Bydd arwyddion yn cael eu gosod i’ch arwain chi ar hyd ffordd arall i Stad Ddiwydiannol Wrecsam a CEM Berwyn drwy Gyffordd 1 oddi ar gefnffordd yr A483.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN