Maen nhw’n dweud na weithiwch chi ddiwrnod yn eich bywyd os ydych chi’n caru beth rydych chi’n ei wneud – dyma beth sydd wedi digwydd i’r artist o Wrecsam, Amy Swann.
Mae Amy yn cynhyrchu amrywiaeth o addurniadau wedi’u peintio a’u hargraffu â llaw, gan gynnwys darnau pren, ceramig a ffabrig printiedig, i gyd wedi’u gwneud i sefyll prawf amser fel cofroddion etifeddol, a gyda chymorth grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) mae wedi symud ei hangerdd o fwrdd y gegin i ofod creadigol pwrpasol.
Meddai Amy: “Mae cael gofod stiwdio yn golygu ’mod i’n gallu cwrdd â’r galw a’r diddordeb cynyddol yn fy ngwaith. Mae’r tîm busnes yng Nghyngor Wrecsam wedi bod yn gefnogaeth amhrisiadwy, nid yn unig wrth helpu i wneud y broses grant mor hawdd â phosibl, ond hefyd fel rhwydwaith cynnes a chyfeillgar am gyngor ac arweiniad bob cam o’r ffordd.”
Mae gwaith Amy wir yn adlewyrchu ei magwraeth Gymreig, wedi’i hysbrydoli gan fynyddoedd, rhaeadrau, coetir a milltiroedd o gaeau, ac mae ganddi werthfawrogiad dwfn o natur, ymdeimlad cryf o ddiwylliant, gwreiddiau teuluol a thraddodiad.
Ar ôl gadael ei gyrfa 15 mlynedd fel athro celf a dod yn fam i dair merch, penderfynodd Amy ganolbwyntio ar ei chreadigrwydd ei hun, gan ddechrau trwy beintio casgliad bach o beli Nadolig wedi’u hysbrydoli gan batrwm bohemaidd gwerin. Roedd yr ymateb a gafodd yn anghredadwy, felly aeth amdani a dechrau datblygu casgliad Nadolig o addurniadau wedi’u peintio â llaw.
Ers hynny mae busnes Amy wedi tyfu a thyfu. Mae hi wedi ymddangos yng nghylchgrawn Country Homes and Interiors Country Living a Period Living Magazine, ac mae wedi adeiladu partneriaeth barhaus gyda’r brand adnabyddus Fortnum & Mason, cydweithrediad arbennig â BODEN a chynhyrchu darn o waith ar gyfer llyfr Holly Tucker MBE, ‘Do What You Love’.

Meddai Fortnum & Mason: “Mae Amy Swann yn grefftwr o Gymru sy’n creu eitemau wedi’u peintio’n hyfryd sy’n dathlu eiliadau hudolus, ystyrlon a hapus. Gan weithio gyda deunyddiau amrywiol mae Amy yn cynhyrchu cofroddion manwl a chain i’w trysori am genedlaethau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae busnes Amy yn mynd o nerth i nerth, sy’n wych. Mae gallu cael ei gofod creadigol ei hun gyda chymorth y grant CFfG yn golygu ei bod wedi gallu cynyddu cynhyrchiant a thyfu hyd yn oed yn fwy.
“Mae defnyddio ei threftadaeth Gymreig fel ysbrydoliaeth yn ychwanegu rhywbeth arbennig iawn i’w gwaith ac rwy’n dymuno pob lwc iddi yn y dyfodol.”