Rydym yn falch o ddweud bod 9 ardal yn Wrecsam wedi cadw eu Statws Baner Werdd – nod rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o safon.
Parc Acton, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Y Parciau, Parc y Ponciau, Parc Gwledig Tŷ Mawr a Mynwent Wrecsam, ynghyd ag enillwyr gwobrau cymunedol sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr yng Ngorsaf y Waun, Maes y Pant a Phlas Pentwyn sydd i gyd wedi ennill Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd.
Bellach yn ei thrydedd ddegawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd.
Mae baneri’n cael eu rhoi i ardaloedd sydd â chyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac yn ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd o safon.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Unwaith eto mae’n bleser clywed y newyddion hyn a rhaid diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ansawdd ein mannau gwyrdd yn parhau i fod o safon uchel.
“Mae ein parciau a’n mannau agored yn parhau i fod yn ardaloedd gwerthfawr o harddwch naturiol ac rydym wedi ymrwymo i’w diogelu a’u cynnal er mwyn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn gallu eu defnyddio fel lleoedd i ymlacio a gwneud ymarfer corff.”
280 o barciau, y nifer uchaf erioed, yn cael gwobr y Faner Werdd
Mae 280 o barciau a mannau gwyrdd, y nifer uchaf erioed, ar draws y wlad wedi derbyn anrhydedd Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.
Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrau yn cael ei gynnal gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer elusen Cadwch Gymru’n Daclus: “Ni fu mynediad am ddim i fannau gwyrdd diogel o ansawdd uchel erioed mor bwysig. Mae ein safleoedd o’r safon uchaf yn chwarae rhan hanfodol yn lles meddyliol a chorfforol pobl, gan ddarparu hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau byd natur.
“Mae’r newyddion bod 280 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi ennill Gwobrau’r Faner Werdd yn dyst i waith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn falch iawn o allu dathlu eu llwyddiant ar lwyfan y byd.”
Mae rhestr lawn o enillwyr o wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch