Erthygl Gwadd – Groundwork Gogledd Cymru
Mae prosiect uchelgeisiol Groundwork Gogledd Cymru i adfer, gwarchod, a hyrwyddo treftadaeth adeiledig a naturiol Dyffryn Clywedog yn mynd rhagddo ers chwe mis erbyn hyn, diolch i arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a Llywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Derbyniwyd £246,530 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a £22,600 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ynghyd â chymorth gan sefydliadau partner.
Mae Partneriaeth Dyffryn Clywedog, o dan arweiniad Groundwork Gogledd Cymru, wedi bod yn gweitho gyda’r gymuned i ddatblygu cynlluniau manwl a fydd yn sail i gais grant llawn i’r Loteri Genedlaethol. Nod y cynlluniau hyn yw gwella treftadaeth gyfoethog y dyffryn, gwella hygyrchedd a chynefinoedd bywyd gwyllt, tra’n creu cyfleoedd i ddysgu rhagor am y diwylliant ac ymgysylltu â’r gymuned.
Dros y chwe mis diwethaf, mae tîm y prosiect wedi trefnu pob math o weithgareddau a digwyddiadau, gan gasglu adborth gwerthfawr gan breswylwyr, ymwelwyr, a mudiadau lleol. O lwybrau treftadaeth i’r teulu i ddyddiau gwirfoddoli, mae’r ymdrechion hyn wedi cryfhau’r cysylltiadau â hanes a harddwch naturiol y dyffryn.
Wrth i’r tîm agosáu at lunio’r cynlluniau terfynol, mae Groundwork Gogledd Cymru yn awyddus i ofyn am farn y gymuned a’r cyhoedd yn ehangach i sicrhau bod y prosiect yn adlewyrchu blaenoriaethau a dyheadau lleol. Gallwch gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein, a bydd eich barn yn helpu i lunio dyfodol Dyffryn Clywedog.
Dywedodd Richard Aram, Pennaeth Prosiectau Groundwork Gogledd Cymru, “Rydyn ni wedi cael chwe mis gwych yn gweithio’n agos gyda’r gymuned i ailddychmygu dyfodol posibl Dyffryn Clywedog. Mae’r gefnogaeth a’r brwdfrydedd wedi bod yn anhygoel, ond mae digon o amser ar ôl i glywed rhagor o leisiau. Rydyn ni’n annog pawb sy’n caru’r lle arbennig hwn i gwblhau’r arolwg.”
Gweledigaeth y prosiect yw trawsnewid y dyffryn yn atyniad diwylliannol ac adnodd cymunedol bywiog, cydnerth, a chynhwysol. O lwybrau treftadaeth hygyrch i ddigwyddiadau amrywiol, y nod yw creu lleoliad sy’n apelio at bobl o bob oedran, sydd â phob math o ddiddordebau, yn lleol a thu hwnt.
Bydd digwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli’r dyfodol yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan a rhannu eu syniadau. Mae Groundwork Gogledd Cymru yn gwahodd pawb i helpu i siapio dyfodol y dyffryn.
Gallwch lenwi’r arolwg cymunedol yma: https://survey.alchemer.eu/s3/90721835/Eich-Dyffryn-Eich-Llais-Arolwg-Addysg
I gael manylion am ddigwyddiadau’r dyfodol a sut i gymryd rhan, ewch i www.groundworknorthwales.org.uk