Mae’n bleser gennym gyflwyno Face-ade – y gwaith celf cyhoeddus mawr newydd ar gyfer Tŷ Pawb a ddatblygwyd gan Kevin Hunt fel rhan o’n comisiwn blynyddol Wal Pawb.
Yn ogystal a’r gwaith celf ar gyfer dau hysbysfwrdd Wal Pawb, mae Kevin wedi dyfeisio prosiect amlochrog ar gyfer Tŷ Pawb fel rhan o’r comisiwn.
Mae pob hysbysfwrdd yn cynnal patrymau cymhleth cydgysylltiedig.
Mae agwedd chwareus Kevin at iaith yn sail ar gyfer arddull weledol a natur gysyniadol y gwaith.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Bysedd gwyrdd a diodydd pefriog
Mae prosiect Kevin hefyd yn cynnwys gardd cymunedol newydd Tŷ Pawb, a fydd yn gartref i amrywiaeth o blanhigion bwytadwy yn fuan.
Mae’r ardd yn cael ei datblygu a’i chynnal gan y Clwb Garddio, grŵp cymunedol o arddwyr gwirfoddol sy’n cyfarfod bob yn ail ddydd Gwener.
Bydd cynhwysion a dyfir yn yr ardd yn cael eu defnyddio i wneud diod a fydd yn cael ei gweini mewn cwpan papur y gellir ei gompostio, sy’n cyd-fynd yn weledol â chynllun yr hysbysfyrddau.
Mae’r broses gynhyrchu annibynnol sy’n cael ei harwain gan y gymuned yn annog ffyrdd mwy gwyrdd o feddwl am yr hyn rydyn ni’n ei yfed ac o ble mae’r cynnyrch yn dod, a bydd hefyd yn codi arian ar gyfer cynnal a chadw’r ardd ar y to.
Felly mae croeso i unrhyw arddwyr brwd, pobl â diddordeb mewn garddwriaeth neu unrhyw un sydd am ymuno â’r Clwb Garddio gysylltu â Heather Wilson (heather.wilson@wrexham.gov.uk), Cydlynydd Gwirfoddolwyr Tŷ Pawb, i gael mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan.
Cyswllt rhwng yr oriel a’r marchnadoedd
Dywed y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Mae Wal Pawb yn nodwedd artistig bwysig yn Nhŷ Pawb sy’n pwysleisio’r croes-doriad rhwng yr oriel a neuadd y farchnad.
“Mae’n newyddion gwych bod Kevin Hunt, a raddiodd yn Wrecsam, wedi cael ei ddewis ar gyfer rhan nesaf y comisiwn hwn. Bydd Kevin yn gweithio gyda masnachwyr a staff Tŷ Pawb, yn ogystal â thrigolion lleol mewn modd arloesol gan sicrhau bod gwaith celf Wal Pawb yn ymdreiddio i neuadd y farchnad.”
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB