Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith celf newydd ar y ffordd i wal pawb!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwaith celf newydd ar y ffordd i wal pawb!
ArallPobl a lle

Gwaith celf newydd ar y ffordd i wal pawb!

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 1, 2019 4:39 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwaith celf newydd ar y ffordd i wal pawb!
RHANNU

Mae’n bleser gennym gyflwyno Face-ade – y gwaith celf cyhoeddus mawr newydd ar gyfer Tŷ Pawb a ddatblygwyd gan Kevin Hunt fel rhan o’n comisiwn blynyddol Wal Pawb.

Cynnwys
  • Bysedd gwyrdd a diodydd pefriog
  • Cyswllt rhwng yr oriel a’r marchnadoedd

Yn ogystal a’r gwaith celf ar gyfer dau hysbysfwrdd Wal Pawb, mae Kevin wedi dyfeisio prosiect amlochrog ar gyfer Tŷ Pawb fel rhan o’r comisiwn.

Mae pob hysbysfwrdd yn cynnal patrymau cymhleth cydgysylltiedig.

Mae agwedd chwareus Kevin at iaith yn sail ar gyfer arddull weledol a natur gysyniadol y gwaith.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Bysedd gwyrdd a diodydd pefriog

Mae prosiect Kevin hefyd yn cynnwys gardd cymunedol newydd Tŷ Pawb, a fydd yn gartref i amrywiaeth o blanhigion bwytadwy yn fuan.

Mae’r ardd yn cael ei datblygu a’i chynnal gan y Clwb Garddio, grŵp cymunedol o arddwyr gwirfoddol sy’n cyfarfod bob yn ail ddydd Gwener.

Bydd cynhwysion a dyfir yn yr ardd yn cael eu defnyddio i wneud diod a fydd yn cael ei gweini mewn cwpan papur y gellir ei gompostio, sy’n cyd-fynd yn weledol â chynllun yr hysbysfyrddau.

Mae’r broses gynhyrchu annibynnol sy’n cael ei harwain gan y gymuned yn annog ffyrdd mwy gwyrdd o feddwl am yr hyn rydyn ni’n ei yfed ac o ble mae’r cynnyrch yn dod, a bydd hefyd yn codi arian ar gyfer cynnal a chadw’r ardd ar y to.

Felly mae croeso i unrhyw arddwyr brwd, pobl â diddordeb mewn garddwriaeth neu unrhyw un sydd am ymuno â’r Clwb Garddio gysylltu â Heather Wilson (heather.wilson@wrexham.gov.uk), Cydlynydd Gwirfoddolwyr Tŷ Pawb, i gael mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan.

Gwaith celf newydd ar y ffordd i wal pawb!

Cyswllt rhwng yr oriel a’r marchnadoedd

Dywed y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Mae Wal Pawb yn nodwedd artistig bwysig yn Nhŷ Pawb sy’n pwysleisio’r croes-doriad rhwng yr oriel a neuadd y farchnad.

“Mae’n newyddion gwych bod Kevin Hunt, a raddiodd yn Wrecsam, wedi cael ei ddewis ar gyfer rhan nesaf y comisiwn hwn. Bydd Kevin yn gweithio gyda masnachwyr a staff Tŷ Pawb, yn ogystal â thrigolion lleol mewn modd arloesol gan sicrhau bod gwaith celf Wal Pawb yn ymdreiddio i neuadd y farchnad.”

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Edrychwch beth wnaeth y merched ifanc hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched Edrychwch beth wnaeth y merched ifanc hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Erthygl nesaf ty pawb Mae Tŷ Pawb yn un oed…felly beth yw hanes yr adeilad cymunedol hyd yma?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English