Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Edrychwch beth wnaeth y merched ifanc hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall
Wales in Bloom
Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau
Y cyngor Busnes ac addysg Pobl a lle
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - Dydd Sadwrn, Mehefin 10
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Pobl a lle > Edrychwch beth wnaeth y merched ifanc hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Pobl a lleY cyngor

Edrychwch beth wnaeth y merched ifanc hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched

Diweddarwyd diwethaf: 2019/04/01 at 3:58 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Edrychwch beth wnaeth y merched ifanc hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
RHANNU

Efallai eich bod yn cofio’r gyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn gynharach yn mis Mawrth fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (DRhM).

Cynnwys
Tu ôl y llen yn y GIGCipolwg ar y gwasanaethau ieuenctid“Falch i weld lefel y cyfranogiad”

Yn ogystal a chyfres o ddigwyddiadau ledled canol tref Wrecsam, gwelodd y diwrnod hefyd ferched ifanc o bob rhan o’r fwrdeistref sirol yn cysgodi merched mewn gwasanaeth cyhoeddus a swyddi gwleidyddol yn ystod y dydd – gan roi golwg agosach iddynt ar fywyd cyhoeddus na fyddent wedi cael y siawns i’w gael fel arall.

Dyma oedd gan rai o’r rhai a gymerodd ran i’w ddweud am eu profiadau o’r diwrnod.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

- Cofrestru -
Get our top stories

Tu ôl y llen yn y GIG

Treuliodd y ferch 14 oed Emilia Mandyna y diwrnod yn cysgodi Amanda Lonsdale, Cyfarwyddwr Rhanbarth Cynorthwyol y GIG dros Wasanaethau Cymunedol.

Cafodd y cyfle i eistedd mewn cyfarfodydd tu ôl y llen yn y GIG, gan gynnwys rhai’n trafod y gyllideb ac ymgynghori, a siaradodd â merched oedd yn gweithio i’r uwch dimau am eu swyddi o ddydd i ddydd a sut y cawsant eu swyddi.

Roedd yn awyddus i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r dydd, ar ôl cymryd rhan mewn gwaith cysgodi ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn 2018.

Dywedodd Emilia: “Gwelais y tu ôl i’r llen yn y Maelor a nifer o wahanol swyddi nad ydynt y rhai rheng flaen.

“Mae doctoriaid a nyrsys yn cael llawer o glod am y gwaith gwych maent yn ei wneud, ond mae angen mwy o glod ar staff tu ôl i’r llenni gan y byddai’r GIG yn dod i stop hebddynt.

Ychwanegodd y byddai’n argymell DRhM a digwyddiadau tebyg i ferched ifanc sydd â diddordeb mewn bywyd cyhoeddus.

Cipolwg ar y gwasanaethau ieuenctid

Cysgododd Jessie Hack, sydd hefyd yn 14 oed, Donna Dickenson, y rheolwr gwasanaeth dros atal a chefnogaeth yn yr adran addysg yma yng Nghyngor Wrecsam.

Yn ystod y dydd, roedd Jessie’n cysgodi Donna mewn nifer o wahanol leoliadau’r cyngor, gan gynnwys y Siop Wybodaeth ar Stryt Lampint a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Siaradodd hefyd â Donna am y ffordd y daeth hi’n reolwr gwasanaeth a’i gyrfa hyd yma.

Ychwanegodd Jessie y byddai’n argymell y digwyddiad i ferched ifanc eraill, a dywedodd: “Mwynheais y diwrnod gymaint, a byddwn wrth fy modd i hwn fod yn ddiwrnod cynrychioliadol y gallai sefydliadau eraill gymryd rhan ynddo.”

“Falch i weld lefel y cyfranogiad”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth y mae modd ei wneud i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched – nid gyda’r digwyddiadau’n unig, ond drwy roi’r cyfle i ferched a allai fod yn ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth neu wasanaeth cyhoeddus i weld beth sy’n digwydd tu ôl i’r llen.

“Gan hynny, rwy’n falch iawn i weld lefel y cyfranogiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn gynharach yn y mis, ac rwy’n arbennig o falch i weld sylwadau gan ferched ifanc fel Emilia a Jessie, ac mae’n amlwg eu bod wedi elwa o’u profiadau yn ystod y dydd.”

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Rhannu
Erthygl flaenorol The Trials of Cato – ail ddyddiad wedi’i gyhoeddi The Trials of Cato – ail ddyddiad wedi’i gyhoeddi
Erthygl nesaf Gwaith celf newydd ar y ffordd i wal pawb! Gwaith celf newydd ar y ffordd i wal pawb!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 8, 2023
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall Mehefin 8, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Digital Screens
Y cyngorBusnes ac addysg

Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu

Mehefin 8, 2023
Climate change
Pobl a lleBusnes ac addysg

Nodi pum cymuned carbon isel

Mehefin 8, 2023
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam

Mehefin 8, 2023
Wales in Bloom
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau

Mehefin 7, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English