Ar ôl tair storm yn olynol mae staff Gwasanaethau Stryd yn dal yn brysur ar draws y fwrdeistref yn glanhau ac yn clirio.
Cwympodd tua 35 o goed yn y gwyntoedd cryfion a difrodwyd llawer mwy.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r A525 a Straight Mile ym Mangor-is-y-coed ar gau o hyd. Gofynnir i chi beidio â gyrru ar hyd ffyrdd lle mae llifogydd ond yn hytrach i ddilyn yr arwyddion dargyfeirio.
Wnaeth y stormydd ddim effeithio ar gasgliadau biniau.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae llawer o waith o’n blaenau i sicrhau diogelwch y coed yn ein parciau gweledig a’n mynwentydd a’r amlosgfa ac rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus wrth fynd i unrhyw un o’r mannau hyn.
“Hoffwn ddiolch i staff am eu gwaith drwy gydol y stormydd ac yn yr wythnosau i ddod. Maen nhw wedi ymateb yn glodwiw i’r heriau er mwyn cadw pobl yn ddiogel.”
Rydym hefyd yn ymwybodol o fân ddifrod i un o’r llwyfannau gwylio yn y Peiriandy yn y Mwynglawdd ac rydym yn asesu’r difrod hwnnw ar hyn o bryd.
Mae rhan o’r llwyfan wedi disgyn i’r ddaear ac mae ffens wedi’i gosod o amgylch hwn ac arwyddion o rybudd wedi’u harddangos.
Mae staff wedi bod i’r safle i asesu’r difrod ac wedi cadarnhau nad oes angen gwneud gwaith adferol ar unwaith yno. Bydd y strwythur yn cael ei asesu’n drylwyr a’r gwaith angenrheidiol yn cael ei wneud maes o law.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL