Yn dilyn y newyddion yn gynharach eleni y bydd Gorsaf Rhiwabon yn gallu cael mynediad heb risiau o’r diwedd mae lawer o waith wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni i symud ymlaen â’r prosiect.
Mae grŵp llywio o bartneriaid allweddol bellach yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei gynnal i ddarparu cynlluniau i droi’r gwelliannau’n realiti.
Dim ond mynediad â grisiau sydd rhwng platfformau yn yr orsaf ar hyn o bryd, sy’n golygu nad ydi pobl anabl, pobl gyda phlant ifanc neu deithwyr gyda bagiau yn gallu cael mynediad i blatfform Caer – dyma’r unig orsaf ar lwybr Caer i’r Amwythig sydd methu â bodloni disgwyliadau teithwyr o orsafoedd trenau modern a hygyrch.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae hefyd yn borth rheilffordd a bysiau ar gyfer cyrchfannau pwysig i dwristiaid megis Llangollen a Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae gwaith yn datblygu’n dda ac mae hi’n bleser gweithio gyda’r grŵp llywio sydd wedi ymrwymo i roi datrysiad ymarferol a chyflym at ei gilydd i wella’r orsaf er mwyn ei gwneud yn hygyrch i bawb.”
Dywedodd Simon Baynes, Aelod Seneddol De Clwyd, “Rydw i’n falch iawn gyda’r cynnydd o ran mynediad heb risiau yn Rhiwabon a chyfarfodydd rheolaidd y grŵp llywio budd-ddeiliad allweddol. Rydw i’n rhoi’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Grant Shapps AS am ein cynnydd ac roeddwn i’n falch iawn ei fod wedi dod draw i Orsaf Rhiwabon ym mis Mai lle bu’n cwrdd â’r Cynghorydd David Bithell a minnau.
“Mae nifer o gynrychiolwyr, sefydliadau a phreswylwyr yn Rhiwabon wedi bod yn ymgyrchu am fynediad heb risiau yng Ngorsaf Rhiwabon ers sawl blwyddyn felly rydw i’n falch gweld y cynnydd sydd yn cael ei wneud. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Dde Clwyd a Gogledd Cymru gan bod fawr angen y prosiect yma er mwyn i deithwyr gael mynediad at y cyfleoedd swyddi a hamdden a fydd yn gwneud ein cymuned yn llefydd hyd yn oed gwell i fyw a gweithio.”
Dywedodd Ken Skates, Aelod o’r Senedd ar gyfer De Clwyd: “Rydw i wedi cydweithio â Chyfeillion Rhiwabon ar yr ymgyrch yma ers nifer o flynyddoedd ar ran y bobl leol, ac rydw i’n falch iawn ein bod ni bellach yn gweld cynnydd.
“Gofynnodd Mark Drakeford y Prif Weinidog i Adran Drafnidiaeth y DU i flaenoriaethu’r gwelliannau hir ddisgwyliedig yn Rhiwabon ar ôl i’n ceisiadau blaenorol fod yn aflwyddiannus, felly dwi’n gwybod y bydd pobl sy’n defnyddio’r orsaf yma yn croesawu hyn hefyd.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld y prosiect yma’n symud ymlaen ar ôl ymgyrch mor ymroddedig ac angerddol, a byddaf yn parhau i weithio gyda’r budd-ddeiliaid i helpu i sicrhau ei fod yn dwyn ffrwyth o’r diwedd.”
Mewn datganiad i Simon Baynes, AS, cadarnhaodd Sam Hadley, Pennaeth Cyfathrebu Network Rail y newyddion, dywedodd bod “Rhiwabon bellach wedi’i gynnwys ar Raglen Mynediad i Bawb’. Mae hyn yn newyddion gwych gan bod Rhiwabon heb ei gynnwys yn y rhestr wreiddiol o orsafoedd yng Nghymru a’r Gororau a gyhoeddwyd gan Yr Adran Drafnidiaeth ym mis Ebrill 20219.
“Y nod yn gyffredinol yw ymgysylltu gyda Swyddog Cadwraeth y Cyngor a datblygu dyluniad amlinellol erbyn diwedd y cyfnod cyllido yn 2024. Bydd hyn yn galluogi i ni sefydlu cost y cynllun a symud ymlaen i ddyluniad manwl a chyflawni yn CP7 – yn amodol ar gefnogaeth gan arianwyr.
“Mae cyfranogiad budd-ddeiliaid ar lefel Seneddol Cymru, Prydain a’r awdurdod lleol yn bwysig, yn union fel cefnogaeth y gymuned ehangach. Rydym ni’n cydnabod angerdd y gymuned yn Rhiwabon, ei rôl fel porth i Langollen a’r dalgylch, a threftadaeth gyfoethog y rheilffordd yn y dref.
“Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid er mwyn datblygu’r prosiect – rydym wedi ymrwymo i gyfarfod y budd-ddeiliaid allweddol yn rheolaidd, i’w diweddaru am y cynnydd a’u helpu nhw i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r bobl a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL