Fe all cynifer â thraean o bobl fod â’r feirws heb arddangos unrhyw symptomau. Felly bydd profi eich hun yn rheolaidd yn eich helpu i ganfod a ydych yn dioddef o’r feirws. Ond fe fydd angen i chi fod yn gyfrifol wrth gael gwared ar y dyfeisiau profi llif unffordd.
Mae’n hynod o bwysig i waredu’r pecynnau profi hyn yn gywir er mwyn cadw eraill yn ddiogel, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y cyngor canlynol…
Beth i’w wneud…
• Os yw’r prawf yn negyddol, gosodwch y ddyfais yn y bag a’i glymu. Bydd nawr yn barod i fynd i’ch bin gwastraff cyffredinol.
• Os yw’r prawf yn gadarnhaol, rhowch ddau fag amdano – gan sicrhau fod y bagiau wedi eu cau’n ddiogel (wedi eu clymu/selio), yna cadwch hwn am 72 awr cyn ei roi yn eich bin gwastraff cyffredinol.
• PEIDIWCH â cheisio gwaredu pecynnau profi gydag unrhyw rai o’ch ffrydiau gwastraff ailgylchu.
Dyma’r tri cham pwysig i’w dilyn.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
“Diogelwch yw’r flaenoriaeth”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fe fydd angen i bobl sy’n cymryd prawf fod yn hynod o gyfrifol wrth gael gwared ar y dyfeisiau profi llif unffordd. Mae pawb wedi gweithio’n galed i wella’r sefyllfa yn Wrecsam dros y misoedd diwethaf ac rwy’n sicr nad yw unrhyw un eisiau gwneud unrhyw beth a fydd yn mynd â ni’n ôl. Diogelwch yw’r flaenoriaeth.
“Fel rheol syml, os yw’r prawf yn negyddol dylid ei roi – yn y bag, ei gau’n ddiogel, a’i roi yn y bin. Os yw’r prawf yn gadarnhaol – rhowch ddau fag amdano, ei gau’n ddiogel, aros 72 awr, ac yna ei roi yn y bin. Fe fyddwch yn rhoi eraill mewn perygl os ydych yn ceisio gwneud unrhyw beth sy’n wahanol i’r camau hyn yr ydym wedi eu hamlinellu.”
Gall unrhyw un sy'n gwirfoddoli neu ddim yn gallu gweithio gartref nawr gael pecynnau profi cyflym am ddim i'w cartrefi.
Cofiwch roi gwybod am eich canlyniadau i helpu i atal lledaeniad coronafeirws.
Mwy o wybodaeth yma ????https://t.co/lGWie91X3a pic.twitter.com/HSisV1kAiB
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) May 5, 2021
Cofiwch gael gwared ar fasgiau/gorchuddion wyneb mewn modd cyfrifol
Mae hefyd yn bwysig i fod yn gyfrifol os ydych yn defnyddio masgiau neu orchuddion wyneb untro.
Defnyddiwch finiau gwastraff cyffredinol neu ewch â nhw adref i gael gwared arnynt yn ddiogel. Dylent gael eu rhoi mewn bag plastig er mwyn osgoi lledaenu’r feirws ymhellach a dylech olchi neu ddiheintio eich dwylo yn syth wedyn.
Hunanynysu
Os ydych wedi cael prawf cadarnhaol, fe fydd angen i chi gydymffurfio gyda’r canllawiau hunanynysu presennol. Edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth ar hunanynysu.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF