Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgolion yr 21ain ganrif – Paratoi cynlluniau Ysgol yr Hafod, Johnstown, ar gyfer Cais Cynllunio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgolion yr 21ain ganrif – Paratoi cynlluniau Ysgol yr Hafod, Johnstown, ar gyfer Cais Cynllunio
Busnes ac addysgY cyngor

Ysgolion yr 21ain ganrif – Paratoi cynlluniau Ysgol yr Hafod, Johnstown, ar gyfer Cais Cynllunio

Diweddarwyd diwethaf: Mai 11, 2021 11:05 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ysgol Yr Hafod
RHANNU

Mae gwaith i wella cyfleusterau ysgolion ar draws Wrecsam yn parhau wrth i’r haf nesáu, ac rydym bellach yn dechrau canolbwyntio ar Ysgol yr Hafod yn Johnstown sydd ar hyn o bryd wedi’i lleoli ar ddau safle gwahanol.

Cynnwys
  • Disgyblion Ysgol yr Hafod ar un safle
  • Nodyn i olygyddion:

Er nad yw’r cynlluniau wedi’u llunio eto, mae cynigion wedi’u cyflwyno i ymestyn safle Ffordd Bangor ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen a Blynyddoedd Cynnar.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Os bydd popeth yn mynd yn unol â’r cynllun, bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno ddiwedd yr haf / dechrau’r hydref ac yn mynd drwy’r broses gynllunio statudol cyn gynted â phosibl ar ôl cynnal ymgynghoriad â phob parti â diddordeb.

Disgyblion Ysgol yr Hafod ar un safle

Dywedodd y Cyng David A Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn yr ysgol: “Yn dilyn cyfuno’r ddwy ysgol ychydig o flynyddoedd yn ôl, rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu gweld yr ysgol gyfan gyda’i gilydd ar un safle. Megis dechrau ydym ni â’r cynlluniau ar hyn o bryd, ond mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer gwella addysg i blant yn Johnstown.

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i lunio cynlluniau manwl a fydd yn cael eu cyflwyno unwaith y byddant wedi’u cwblhau.”

Dywedodd Alison Heale, y Pennaeth: “Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r ysgol ac rydym yn obeithiol iawn y byddwn yn gallu gwireddu’r cynlluniau hyn cyn bo hir. Mae pobl ifanc Johnstown yn haeddu’r cyfleusterau gorau posibl ac mae staff yn barod i wynebu’r heriau a allai godi er mwyn sicrhau amgylchedd ysgol gwell i bawb.”

Nodyn i olygyddion:

Ariennir y gwaith hwn gan raglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru ac mae grant Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ynghyd â Chyngor Wrecsam hefyd yn cyfrannu at y costau.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Barker's Lane Mae disgyblion wrth eu boddau’n gweld yr estyniad a’r addasiadau yn Ysgol Lôn Barcas yn dechrau siapio
Erthygl nesaf Gwaredwch ddyfeisiau profi llif unffordd yn ddiogel Gwaredwch ddyfeisiau profi llif unffordd yn ddiogel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English