Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaeth 111 yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru ddydd Mawrth 22 Mehefin 2021
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwasanaeth 111 yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru ddydd Mawrth 22 Mehefin 2021
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth 111 yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru ddydd Mawrth 22 Mehefin 2021

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 21, 2021 12:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
111
RHANNU

O yfory bydd cleifion yng Ngogledd Cymru yn gallu ffonio 111 i gael mynediad am ddim at ofal meddygol brys y tu allan i oriau a chefnogaeth ac arweiniad iechyd rownd y cloc.

Gellir cael gwybodaeth a chyngor iechyd hefyd ar wefan GIG 111 Cymru, sy’n cynnwys gwirwyr symptomau ar-lein ar gyfer cwynion a chyflyrau cyffredin.

Mae’r rhif hawdd ei gofio am ddim i’w ffonio o linellau tir a ffonau symudol ac mae’n darparu mynediad at y gwasanaethau MT y tu allan i oriau a chyngor iechyd gan GIG Cymru.  Bydd yn helpu cleifion i gael yr wybodaeth, arweiniad a’r driniaeth orau yn y lle cywir ar yr amser cywir.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Gogledd Cymru yw’r ardal ddiweddaraf yn y wlad i gyflwyno’r gwasanaeth cenedlaethol dan arweiniad staff clinigol hwn.

Gall galwyr dderbyn cyngor iechyd dros y ffôn, eu gwahodd i fynychu Uned Mân Anafiadau neu drefnu apwyntiad brys gyda’r MT y tu allan i oriau yn dibynnu ar eu symptomau.

Meddai Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Gofal Cychwynnol a Chymuned ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Bydd cyflwyno GIG 111 Cymru yn ein hardal yn helpu pobl ledled Gogledd Cymru i gael y gefnogaeth gofal iechyd sydd ei angen arnynt am ddim ac mewn ffordd sy’n gweddu iddyn nhw – a bydd hefyd yn cyflawni buddion i gleifion ac i’r gwasanaeth iechyd.

“Ar ôl y lansiad, bydd y rhai sy’n ffonio’r rhif 111 syml a chofiadwy yn derbyn cyngor arbenigol ac arweiniad ar unrhyw amser. Byddant yn cael eu hasesu’n llawn ac os bydd angen iddynt gael eu gweld gan feddyg neu weithiwr gofal iechyd arall y tu allan i oriau tra bydd eu meddygfa nhw ar gau, bydd hyn yn cael ei drefnu.

“Nawr mae gan gleifion ffordd hawdd iawn o gael mynediad at wybodaeth gofal iechyd a gofal brys 24/7.  Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu pobl i gael yr wybodaeth, yr arweiniad a’r driniaeth gywir, yn y lle cywir ar yr amser cywir.”

Mewn argyfwng, dylai cleifion fynychu un o’n hadrannau achosion brys neu ddeialu 999 am ambiwlans.

Dywedodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer GIG 111 Cymru:

“Gall cael mynediad at wasanaethau gofal brys fod yn ddryslyd iawn ac os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd – gall fod yn anodd gwybod pa wasanaethau sydd ar gael a phryd, a pha weithiwr proffesiynol neu wasanaeth gofal iechyd sydd orau i ymdrin â’ch anghenion.

“Mae GIG Cymru am wneud pethau’n haws i gleifion, felly o Fehefin 22, bydd pobl sy’n byw yn ardal Betsi Cadwaladr nawr angen ffonio un rhif yn unig – 111 am ystod o gyngor a chefnogaeth gofal iechyd.

“Mewn cyfnod o bwysau enfawr ar y gwasanaeth iechyd, mae’n wych gallu gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys nyrsys, MT, fferyllwyr a pharafeddygon i sicrhau fod cleifion yn cael yr help sydd ei angen arnynt mor effeithiol ac effeithlon ag sy’n bosibl.”

Mae GIG 111 Cymru wedi’i staffio gan dîm mawr o nyrsys, meddygon a fferyllwyr, a dwsinau o ymdrinwyr galwadau newydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel.  Mae’r gwasanaeth yn cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys mewn canolfan fawr yn Llanelwy.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Planning for Dark Skies Ymgynghoriad ar ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau y
Erthygl nesaf Emma Watson Emma’n benderfynol o gadw Wrecsam yn daclus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English