Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles trigolion, gyda gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol newydd a gwell yn cael ei gyflwyno ledled y fwrdeistref sirol, wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Daw’r datblygiad fel rhan o newidiadau cenedlaethol ehangach i drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen Cronfa Integreiddio Rhanbarthol (CIRh) gyfredol – sydd wedi ariannu’r cynllun Asiantiaid Cymunedol yn llwyr ers ei sefydlu – yn dod i ben ym mis Mawrth 2027. Yn bwysig, mae’r gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol yn bodloni meini prawf cyllido newydd ac yn sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwasanaeth cymorth yn y gymuned.
Mae ymarfer comisiynu ar y gweill ar hyn o bryd i nodi darparwr gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol newydd o Awst 1.
Adeiladu ar lwyddiant a dysgu
Mae’r cynllun Asiantiaid Cymunedol wedi chwarae rhan werthfawr wrth helpu trigolion i gael mynediad at gymorth lleol dros nifer o flynyddoedd, ac rydym wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod ei gryfderau’n parhau yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae cyfeiriad polisi cenedlaethol yn canolbwyntio mwy ar Bresgripsiynu Cymdeithasol fel model cynaliadwy o gymorth yn y gymuned.
Gan weithio mewn partneriaeth agos â BIPBC, gan gynnwys cyllid ar y cyd i sicrhau model mwy cynaliadwy, rydym wedi cyd-ddylunio gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol newydd a fydd yn:
- Darparu un gwasanaeth i Wrecsam gyfan sy’n hygyrch i bob cymuned ac yn canolbwyntio ar atal a lleihau anghydraddoldebau mewn iechyd a lles yn Wrecsam.
- Cynnig cymorth sydd wedi’i dargedu a’i bersonoli’n well ac yn canolbwyntio ar atal a gwella’r canlyniadau lles sydd bwysicaf i’r unigolyn
- Ehangu mynediad, gan gefnogi pobl 25 oed a hŷn
- Sicrhau integreiddio cryfach rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol
- Sicrhau mwy o gysondeb, gan leihau amrywiad mewn mynediad ar draws gwahanol ardaloedd
Dim bwlch yn y cymorth i drigolion
Gyda gwasanaeth newydd yn dechrau o 1 Awst, bydd parhad o ran cymorth i’n trigolion. Bydd gwasanaethau Asiantiaid Cymunedol yn parhau o dan y trefniadau presennol tan fis Mawrth 2027, gan ganiatáu pontio graddol wedi’i reoli’n dda.
Bydd trigolion yn parhau i dderbyn cymorth i wella eu lles, cynnal annibyniaeth, a chysylltu â gwasanaethau lleol.
Gweithio gyda chymunedau a chynghorwyr
Bydd cynghorwyr yn chwarae rôl allweddol fel partneriaid atgyfeirio yn y gwasanaeth newydd, ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau cymunedol, gan helpu i sicrhau bod trigolion yn cael eu cysylltu â’r cymorth iawn ar yr adeg iawn. Bydd gweithdy i aelodau yn cael ei gynnal ym mis Medi i roi rhagor o fanylion.
Bydd Cynghorau Cymuned sy’n cyflogi eu Hasiantiaid Cymunedol eu hunain ar hyn o bryd yn gallu ystyried eu trefniadau yn y dyfodol yn lleol, ond bydd pob cymuned ledled Wrecsam yn elwa o fynediad at y gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol newydd.
Edrych tua’r dyfodol
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda BIPBC i ddatblygu cynllun cyfathrebu cydlynol i sicrhau y bydd trigolion, partneriaid a rhanddeiliaid yn gwybod sut i gael mynediad at y gwasanaeth newydd.
Mae cyflwyno Presgripsiynu Cymdeithasol yn gam cadarnhaol ymlaen — gan adeiladu ar gryfderau’r cynllun Asiantiaid Cymunedol wrth ddarparu model mwy cyson, gwydn o gymorth ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym yn cydnabod y cyfraniad hynod bwysig y mae Asiantiaid Cymunedol wedi’i wneud i gefnogi ein cymunedau dros nifer o flynyddoedd. Gan weithio mewn partneriaeth â BIPBC, mae’r gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol newydd yn adeiladu ar y gwaith gwych hwnnw, ac mewn gwirionedd yn creu dull mwy cydgysylltiedig a chynaliadwy a fydd o fudd i drigolion ledled Wrecsam.
“Trwy alinio â pholisi cenedlaethol a gweithio’n agos gyda’n partneriaid iechyd, credwn ein bod yn sicrhau y gall pobl barhau i dderbyn cymorth o ansawdd uchel sy’n eu helpu i aros yn iach, yn gysylltiedig ac yn annibynnol.”




