Mae’r ymgyrch dros allu cael mynediad heb risiau yng ngorsaf Rhiwabon yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phartneriaeth Rheilffordd Caer i Amwythig, sydd wedi cydweithio’n agos dros y blynyddoedd â Llywodraeth Cymru a Ken Skates AS i sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU dan y cynllun Access for All.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Cllr David A Bithell, Lead Member for Place, Environment and Transport and Chair of the Chester Shrewsbury Rail Roedd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Lle, yr Amgylchedd a Chludiant a Chadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Caer i Amwythig yn croesawu’r newyddion bod AS De Clwyd, Simon Baynes, wedi trefnu cyfarfod gyda Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Chris Heaton-Harris AS, i drafod diffyg mynediad heb risiau yn yr orsaf hon.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell, ‘Rydyn ni’n falch iawn bod Simon yn cefnogi’r ymgyrch ac wedi trefnu’r cyfarfod yma. Rydyn ni wedi cofnodi’r problemau yn yr orsaf hon mor bell yn ôl â 2006 ac rydyn ni wedi bod yn cefnogi ceisiadau i ddatrys y broblem ers tro. Mae aelodau etholedig lleol Rhiwabon a’r gymuned ei hun wedi cefnogi’r ymgyrch, gan gynnwys trwy lunio deiseb a gyflwynodd y cyn-AS i Senedd Llundain yn 2017.
‘Rydyn ni’n mawr obeithio y gallwn ni gydweithio i sicrhau bod Gorsaf Rhiwabon o’r diwedd yn darparu ar gyfer anghenion pob teithiwr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ganlyniad y cyfarfod.’
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG