Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gweithrediad ar y Cyd yn Atafaelu Alcohol a Thybaco Anghyfreithlon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gweithrediad ar y Cyd yn Atafaelu Alcohol a Thybaco Anghyfreithlon
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Gweithrediad ar y Cyd yn Atafaelu Alcohol a Thybaco Anghyfreithlon

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 10, 2018 2:04 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gweithrediad ar y Cyd yn Atafaelu Alcohol a Thybaco Anghyfreithlon
RHANNU

Rydym bob amser eisiau sicrhau bod Wrecsam yn lle teg a diogel i wneud busnes.

Ochr yn ochr â’n partneriaid o fewn gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Heddlu Gogledd Cymru a’r arolygwyr o fewn Wagtail UK, bu i’n tîm Safonau Masnach archwilio sawl safle manwerthu ar draws y Fwrdeistref Sirol yr wythnos ddiwethaf – a chanfod symiau mawr o alcohol a thybaco anghyfreithlon.

Bu i swyddogion atafaelu 8,260 o sigaréts, 550g o dybaco rholio â llaw a 4,160 litr o alcohol, roedd yr holl gynhyrchion hyn yn anghyfreithlon ac yn barod i’w gwerthu yn Wrecsam. Datgelwyd rhai troseddau yn ymwneud â bwyd gan y swyddogion.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Mae hanner o ysmygwyr hirdymor yn marw yn fuan o afiechydon yn gysylltiedig ag ysmygu, ac mae argaeledd tybaco anghyfreithlon yn peri risg sylweddol i bobl ifanc, o ystyried ei bris rhad a’i argaeledd.

Os yw pobl ifanc yn cael mynediad at sigaréts pan maent yn ifanc, hawdd iawn yw iddynt fod yn gaeth i sigaréts drwy gydol eu bywydau.

Er y gall troseddwyr wneud elw mawr drwy werthu alcohol heb dalu toll, mae risgiau sylweddol ynghlwm wrth yfed alcohol anghyfreithlon – mae copïau anghyfreithlon o ddiodydd alcoholig hysbys wedi achosi dallineb a marwolaethau yn y gorffennol.

Mae ymchwiliadau bellach yn mynd rhagddynt i’r safle dan sylw mewn perthynas â nifer o droseddau Safonau Masnach, bwyd a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae gweithrediadau llwyddiannus fel hyn yn sicrhau bod Wrecsam yn lle teg a diogel i wneud busnes a siopa.

“Byddwn ni, ochr yn ochr â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Heddlu Gogledd Cymru, bob amser yn ymchwilio i adroddiadau o weithgarwch anghyfreithlon, a byddwn yn rhoi camau gorfodi cadarn ar waith os daw unrhyw broblem yn ymwneud â chydymffurfedd i’r amlwg.

Dylid nodi bod y rhan fwyaf o’r busnesau i’r swyddogion ymweld â nhw wedi cydymffurfio ac nid oedd unrhyw broblem o ran cydymffurfedd. Mae’r busnesau hynny sy’n cydymffurfio â rheoliadau yn gwybod bod gwiriadau o’r fath yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod eu cysylltiadau busnes cyfreithlon yn cael eu diogelu ac er mwyn rhoi cyngor iddynt ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith lle bo angen.”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Pwy ydi’ch seren chwaraeon chi? Dim ond ychydig ddyddiau ar ôl! Pwy ydi’ch seren chwaraeon chi? Dim ond ychydig ddyddiau ar ôl!
Erthygl nesaf Snow Pe byddai’n bwrw eira yfory, a fyddech yn barod amdano?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English