Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwesty hanesyddol y Waun yn edrych i’r dyfodol dan berchnogaeth newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gwesty hanesyddol y Waun yn edrych i’r dyfodol dan berchnogaeth newydd
Busnes ac addysg

Gwesty hanesyddol y Waun yn edrych i’r dyfodol dan berchnogaeth newydd

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 12, 2025 10:48 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Hand Hotel
RHANNU

Mae Gwesty’r Hand yn y Waun – un o dirnodau hanesyddol mwyaf eiconig Wrecsam yn dyddio’n ôl i’r 1600au cynnar – dan berchnogaeth newydd.

Yn ddiweddar, prynodd TLC Holdings Group Ltd y gwesty, sydd wedi’i leoli dafliad carreg o Gastell y Waun a Chamlas Llangollen. Mae’r gwesty 14 ystafell yn llawn hanes ac wedi bod yn gyrchfan boblogaidd ers amser maith i ymwelwyr sy’n crwydro gororau Cymru.

Mae’r perchnogion newydd yn awyddus i wella cynnig Gwesty’r Hand i dwristiaid a’r gymuned leol. Mae’r cynlluniau yn cynnwys adnewyddiadau mewnol, uwchraddio cynaliadwyedd, a phrofiadau ymwelwyr newydd – gan gynnwys partneriaethau posibl gydag atyniadau a chyflenwyr lleol.

Yn ddiweddar, ymwelodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, y Cynghorydd Nigel Williams, â’r eiddo rhestredig Gradd II i gwrdd â’r tîm newydd a chlywed mwy am eu cynlluniau buddsoddi. Dywedodd: “Roeddwn i’n falch o gwrdd â pherchnogion newydd Gwesty’r Hand ac i weld beth maen nhw wedi’i gynllunio ar gyfer y gwesty. Mae’n un o’r gwestai hynaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae’n boblogaidd gyda phobl leol a thwristiaid felly rwy’n falch o glywed eu bod yn bwriadu parhau i uwchraddio, tyfu’r busnes a chynyddu ei rôl yng nghynnig twristiaeth Wrecsam.”

Dywedodd David Kamau, Cyfarwyddwr TLC Holdings Group Ltd: “Roedd yn bleser croesawu’r Cynghorydd Nigel Williams i Westy’r Hand a rhannu ein cynlluniau ar gyfer y bennod newydd gyffrous hon. Er bod y gwesty wedi’i leoli’n falch yn y Waun, rydym yn rhannu gweledigaeth ehangach o gyfrannu at economi dwristiaeth sy’n tyfu yn Wrecsam. Ein nod yw sicrhau bod Gwesty’r Hand yn dod yn gyrchfan allweddol i ymwelwyr ledled y rhanbarth – gan gyfuno treftadaeth, lletygarwch a chymuned. Yn TLC Holdings Group Ltd, rydym yn gyffrous i fuddsoddi yn Wrecsam a chwarae ein rhan wrth lunio ei phennod nesaf.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Social services Helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn Wrecsam
Erthygl nesaf 'Cyfnod cyffrous i'r ddinas' wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp ‘Cyfnod cyffrous i’r ddinas’ wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English