Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwledda Allan dros y Nadolig Eleni? Edrychwch Cyn Archebu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gwledda Allan dros y Nadolig Eleni? Edrychwch Cyn Archebu
Busnes ac addysgY cyngor

Gwledda Allan dros y Nadolig Eleni? Edrychwch Cyn Archebu

Diweddarwyd diwethaf: 2018/10/03 at 2:04 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Look before you book
RHANNU

Os ydych chi’n cynllunio pryd o fwyd Nadolig arbennig gyda chydweithwyr, ffrindiau neu deulu, hoffai Tîm Ffermio a Bwyd Cyngor Wrecsam eich atgoffa chi i ‘edrych cyn i chi archebu’.

Mae’r Nadolig yn amser i fwynhau cwmni da a bwyd da heb orfod poeni am wenwyn bwyd. Ond y gwir yw, ni allwch ddweud beth yw safonau hylendid bwyty yn ôl pa mor lân a thaclus y mae’r staff yn ymddangos neu yn ôl pa mor brysur yw hi.

Y pethau na allwch eu gweld – fel germau a gaiff eu lledaenu gan arferion hylendid gwael – y mae angen i chi eu hystyried.

Mae un ffordd hawdd i dawelu eich meddwl – edrychwch ar y sgôr hylendid bwyd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r sgôr hylendid bwyd yn dweud wrthych am safonau hylendid mewn bwytai a busnesau bwyd eraill. Mae’n hawdd iawn ei wirio.

Ewch ar-lein ac ymwelwch â gwefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu os ydych allan ar grwydr yn rhywle, cadwch olwg allan am y sticer gwyrdd a du.

Mae’r sgoriau yn cael eu pennu gan ein swyddogion Gwarchod y Cyhoedd ac yn rhedeg o 0-5, gyda gradd 5 yn golygu lefel dda iawn o hylendid bwyd. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos eu sticer sgôr yn dilyn arolygiad.

Mae bron i 98 y cant o fusnesau bwyd wedi eu graddio yn 3 neu well, felly mae digon o leoedd gyda safonau da a gallwch osgoi mynd â’ch teulu i’r rhai nad ydynt yn bodloni’r radd. Bydd gweld sticer gwyrdd a du yn cael ei arddangos yn y ffenestr a gwirio ar-lein am y sgôr yn eich helpu i wneud penderfyniad mwy gwybodus.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau a Phartneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae gwirio graddfeydd hylendid a dewis bwyty sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif ar gyfer partïon Nadolig yn syml i bobl yn Wrecsam. Dyma gyfnod pwysig i fusnesau lleol. Mae sgôr hylendid bwyd da yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae’n bwysig i gwsmeriaid.’

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ratings.food.gov.uk

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU

Rhannu
Erthygl flaenorol Gall grwpiau chwaraeon ymgeisio am arian Gall grwpiau chwaraeon ymgeisio am arian
Erthygl nesaf Gwybod rhywun sydd yn awyddus i weithio gyda’r Cyngor? Gwybod rhywun sydd yn awyddus i weithio gyda’r Cyngor?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English