Anogir preswylwyr yn Wrecsam i fanteisio’n llawn ar y siop ailddefnyddio gyfagos wrth dacluso – mae’n ffordd gynaliadwy i gael gwared ar eitemau diangen a’u trawsnewid!
Mae FCC Environment – cwmni rheoli gwastraff ac ailgylchu blaengar yn y DU – mewn cydweithrediad â Hosbis Tŷ’r Eos a Chyngor Wrecsam, yn annog preswylwyr lleol i wneud y mwyaf o’u siop ailddefnyddio leol pan fyddant yn glanhau eu cartrefi eleni, drwy gyfrannu unrhyw eitemau diangen.
Drwy wneud hyn bydd y preswylwyr yn helpu i leihau gwastraff, yn cefnogi Hosbis Tŷ’r Eos ac yn rhoi ymdeimlad glanach a thawelach i’w cartref, gan roi cyfle i chi weld unrhyw fargeinion y Pasg mae preswylwyr lleol eraill wedi eu cyfrannu.
Mae siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos, yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, ar agor rhwng 9am a 5pm, saith diwrnod yr wythnos. Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio at y man cywir i roi eich cyfraniad.
Dengys bod tacluso eich cartref yn cael effaith sylweddol ar eich iechyd meddwl, gan fod cael cartref mwy trefnus yn rhoi hwb o ‘dopamin’, ac mae arbenigwyr yn dweud bod byw mewn cartref mwy trefnus yn creu ymdeimlad o ‘dawelwch yn y meddwl’.
Mae mwy na 9 o bob 10 aelwyd yn cael cyfnod o dacluso. Mae’n gas gan nifer o bobl wneud hyn, ond mae’n rhoi cyfle gwych i gael gwared ar unrhyw eitemau sydd heb eu defnyddio a’u rhoi i gartref newydd yn hytrach na’u lluchio i’r sbwriel.
Drwy gyfrannu eitemau diangen, neu ddewis un newydd, bydd preswylwyr yn cefnogi’r gwasanaethau y mae Hosbis Tŷ’r Eos yn eu darparu yn Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych hyd at Abermaw a’r trefi ar y ffin. Croesawir llyfrau a beiciau i deganau plant a nwyddau’r cartref, unrhyw beth nad ydych yn eu defnyddio mwyach, ond efallai y gallent fod yn ddefnyddiol i rywun arall, yn y Siop Ailddefnyddio ar Lôn y Bryn.
Amlygodd Gemma Green, Rheolwr Ailddefnyddio yn FCC Environment bwysigrwydd y fenter hon: “Gan fod pobl yn meddwl am dacluso a glanhau ar hyn o bryd, ac mae’r Gwyliau’r Pasg ar y gweill, mae’r Siop Ailddefnyddio yn gyfle gwych i gael gwared ar flerwch, neu hyd yn oed mynd i brynu rhywbeth newydd i ddiddanu’r plant!
“Os oes gennych eitemau diangen sydd ddim yn cael eu defnyddio, mae siop ailddefnyddio yn ffordd wych o drawsnewid yr eitemau. Er bod llawer yn teimlo’n ansicr yn meddwl am dacluso, mae gwneud hyn yn dda i’r blaned ond hefyd i’ch meddwl, gan fod tŷ taclus yn dod â synnwyr tawel o drefn.
“Drwy roi ail-gyfle i eitemau, byddwn yn lleihau gwastraff ac yn hyrwyddo economi gylchol fwy cynaliadwy – gall sothach un person fod yn drysor i berson arall!
“Beth am gefnogi Hosbis Tŷ’r Eos yn lleol a’r blaned drwy ddod i gael bargen wych neu i gyfrannu?”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae’r siop ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, ac mae’n rhywle y gallwch brynu eitemau o ansawdd da iawn sydd wedi cael eu hailgylchu. Mae ystod eang o stoc ar gael yn y siop bob amser ac maent yn cynnig gwerth gwych am arian a byddem yn annog pawb i fynd yno i weld dros eu hunain.
“Gallwch gyfrannu eitemau gyda gwerth ailwerthu yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu, a chânt eu pasio i’r siop ailddefnyddio. Os mai prynu neu gyfrannu ydych chi, byddwch yn helpu achos lleol da yn Hosbis Tŷ’r Eos sydd yn gwneud gwaith gwirioneddol dda yn yr ardal leol.”
Diweddariad sydyn – Dim newid i gasgliadau biniau dros y Pasg – Newyddion Cyngor Wrecsam