Rydym wrth ein boddau yn rhoi gwybod i chi fod Wrecsam wedi ennill y wobr Aur yn ogystal ag ennill categori ‘Dinas’ yng ngwobrau Prydain yn ei Blodau 2024 Cymdeithas Arddwriaeth Frenhinol yn ddiweddar.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo nos Lun, 21 Hydref yn Stadiwm Manceinion Unedig yn Old Trafford.
Fe enillodd Wrecsam y Wobr Aur yn y categori ‘Dinas’ gan guro Dundee, Yr Alban a Bwrdeistref Havering yn Llundain, i gael ei goroni yn enillydd. Cyflwynwyd y wobr gan Frances Tophill, un o gyflwynwyr Gardeners’ World ar y BBC.
Roedd y Cynghorydd Nigel Williams fel Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, Nicola Ellis, Craig Youens a Jacinta Challinor o’n Tîm Amgylcheddol yno’n cynrychioli Wrecsam, ac Andrea Evans o Codwyr Sbwriel Wrecsam, ac Elly Evans a Jim Crabtree o Ardd Furiog Erlas.
Enillodd Elly Evans o Ardd Furiog Erlas wobr Cefnogwr Cymunedol. Mae’r wobr yn tynnu sylw at unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i fannau gwyrdd lleol, gan ysbrydoli gwirfoddolwyr a gyrru newid cadarnhaol.
Mae Prydain yn ei Blodau yn ysbrydoli grwpiau cymunedol mewn trefi, dinasoedd a phentrefi i wneud newidiadau i’w hamgylchedd lleol drwy weithredoedd garddwriaethol, amgylcheddol a chymunedol.
“Mae’r cyfan yn Wrecsam”
Meddai Darren Share a Jon Wheatley, beirniaid Prydain yn eu Blodau: “Mae’r cyfan yn Wrecsam, o arddangosfeydd tymhorol i arddio bywyd gwyllt, garddwyr ifanc mewn ysgolion, i’r rheini sydd yn gallu trosglwyddo eu gwybodaeth helaeth i eraill.” Bu’r beirniaid hefyd yn canmol prosiectau llwyddiannus garddio trefol a bioamrywiaeth y grŵp.
Cafwyd adborth pellach: “Mae ymrwymiad y ddinas hon i fioamrywiaeth yn helaeth ac wedi’i gefnogi gan drefniadau cadarn i fonitro bywyd gwyllt a sicrhau bod targedau’n cael eu cyrraedd. Mae yna 20 o ddolydd blodau gwyllt, ac yn cyd-fynd â nhw mae nifer o ynysoedd traffig sy’n cael eu noddi sy’n darparu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt, yn enwedig gwenyn a gloÿnnod byw.
‘Mae yna ffocws hefyd ar blannu coed ar gyfer manteision hirdymor ac mae’r ddinas wedi ennill statws Dinas Goed y Byd.
‘Mae rhaglen lwyddiannus atal gwastraff Wrecsam hefyd wedi creu argraff – diolch i fentrau megis canolfan addysg, siop ailddefnyddio, caffi trwsio a gwasanaeth benthyg offer.
‘Mae synwyryddion arloesol yn monitro pryd i ddyfrio planwyr – ffordd wych o gadw dŵr.’
“Gwaith tîm, llawn o waith caled ac ymroddiad”
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth a fynychodd y seremoni: “Rydym ni’n falch iawn gyda’r hyn rydym wedi’i gyflawni, yn dilyn gwobr aur Cymru yn ei Blodau yn ddiweddar. Mae hi wedi bod yn waith tîm cyfan, yn llawn gwaith caled ac ymroddiad gan bawb, ac mae cael ein cydnabod fel enillwyr yng nghategori ‘Dinas’ yng ngwobrau Prydain yn ei Blodau 2024 yn golygu llawer iawn. Mae sylwadau ac adborth y beirniaid yn dangos faint o argraff a grëwyd arnynt gyda’r amrywiaeth o fentrau sydd wedi cael eu rhoi ar waith o amgylch y Sir.”
“Rydych chi gyd yn bobl ysbrydoledig”
Roedd Wrecsam yn falch o fod yn cynrychioli Cymru gyfan yng ngwobrau Prydain yn ei Blodau.
Meddai Peter Barton-Price, Cadeirydd Cymru yn ei Blodau: “Fe hoffwn achub ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch yn bersonol ac ar ran Cymru yn ei Blodau am eich cyflawniad rhagorol yng Ngwobrau Prydain yn ei Blodau Cymdeithas Arddwriaeth Frenhinol eleni.
“Mae cyrraedd y safon Aur yn nhri rhan y meini prawf beirniadu yn amlwg yn dangos eich ymrwymiad i’r amgylchedd naturiol, mannau gwyrdd ac addysg, mae hi’n glir gweld bod pobl Wrecsam wir yn cefnogi’r mentrau yma ac yn eu tro, wedi trefnu byddin fechan o wirfoddolwyr i gefnogi eu dinas.
“Mae’r dull blaengar yma’n golygu bod Wrecsam yn ei Blodau wedi ennill Gwobr Aur a Chategori Dinas 2024, rydych chi wir yn bobl ysbrydoledig ac wedi cynrychioli nid yn unig Wrecsam, ond Cymru ar y lefel uchaf.
“Unwaith eto, ‘llongyfarchiadau’ i chi gyd.”
Gallwch ddarllen am ymweliad y beirniaid â Wrecsam yn ystod mis Awst yn ein blog blaenorol.