Mae ein Tîm Digwyddiadau wedi ennill gwobr ranbarthol bwysig am eu digwyddiad ‘O Dan y Bwâu’ a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
Enillodd y digwyddiad y wobr am Ddigwyddiad Gorau i Ymwelwyr (dan 7.5k o bobl) yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Venue Cymru’n ddiweddar. Bydd y Tîm nawr yn mynd ymlaen i rownd derfynol Cymru Gyfan.
Roeddent yn cystadlu yn erbyn dros 100 o enwebiadau eraill ac yn wynebu cryn gystadleuaeth yn y 4 uchaf oedd yn cynnwys, Gŵyl y Good Life, Rygbi Parc Eirias a Trac Môn.
Mae ‘O Dan y Bwâu’ wedi mynd o nerth i nerth ers iddo gychwyn yn 2011. Mae’n dathlu cerddoriaeth a chân gyda sioe dân gwyllt wefreiddiol i’w gloi sy’n goleuo Traphont Ddŵr Pontcysyllte fendigedig Thomas Telford ac yn deyrnged addas i Safle Treftadaeth y Byd Wrecsam. Mae yna ddisgwyl mawr am y digwyddiad ymysg pobl ledled Wrecsam a’r cannoedd sy’n teithio yma o rannau eraill y DU.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“Mae’r tîm yn credu ei fod werth yr ymdrech”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Roedd hwn yn ganlyniad ardderchog i’r tîm a gynhaliodd y digwyddiad am y 6ed tro’r haf yma! Mae’n waith caled iawn dod â hwn ynghyd, yn ogystal â’r nifer o ddigwyddiadau eraill y mae’r tîm yn eu trefnu, ond mi wn eu bod yn credu ei fod werth yr holl ymdrech gan fod cymaint o bobl yn cael mwynhau’r digwyddiad gwych hwn”.
Bu i FOCUS Wales, sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, hefyd ennill y wobr am y defnydd gorau o ddigidol am yr ap y maent newydd ei ddatblygu ar gyfer yr ŵyl yn 2017, felly llongyfarchiadau mawr iddynt hwythau. Gallwch weld ein herthygl am lwyddiant FOCUS Wales yma: