Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwobrau Dug Caeredin Aur, Arian ac Efydd ar gyfer pobl ifanc Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwobrau Dug Caeredin Aur, Arian ac Efydd ar gyfer pobl ifanc Wrecsam
Y cyngor

Gwobrau Dug Caeredin Aur, Arian ac Efydd ar gyfer pobl ifanc Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 9, 2022 12:04 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Duke of Edinburgh
Wrexham County Borough Council Plasy and Youth Service Duke of Edinburgh awards presentation.
RHANNU

Dathlodd 40 o bobl ifanc o Ganolfan Gwobr Agored Wrecsam ar ôl cyflawni eu Gwobrau Dug Caeredin Aur, Arian ac Efydd yn ddiweddar.

Daethant ynghyd yn Tŷ Pawb ar gyfer seremoni wobrwyo a agorwyd gan Katrina Long o Wobr Dug Caeredin Cymru, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn y siwrnai ar gyfer nifer o bobl ifanc.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf cyflawnodd pedwar o bobl ifanc y wobr Aur, cyflawnodd 13 y wobr Arian a chyflawnodd 23 y wobr Efydd.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince, ac fe ddiolchodd i, a chanmolodd yr holl gyfranogwyr a chyfleu ei edmygedd.

Cymerodd yr athletwr Trac a Chae Paralympaidd Prydeinig, Sabrina Fortune, ran mewn sesiwn Holi ac Ateb gyda chyflwynydd y noson Clive Rowland. Rhannodd Sabrina straeon syfrdanol o ysbrydoliaeth, dewder a hyfedredd chwaraeon mewn siwrnai a arweiniodd at amrywiaeth o fedalau, gan gynnwys ennill Aur ym Mhencampwriaethau Athletau Paralympaidd y Byd yn Nubai. Siaradodd y bobl ifanc a’r oedolion oedd yn bresennol o’r ffordd y gwnaeth ei stori gymell a chynnig anogaeth iddyn nhw oll.

Duke of Edinburgh

Fe wnaeth y cyfansoddwr a’r perfformiwr dawnus lleol, Luke Gallagher, ddarparu adloniant trwy gydol y noson gyda thair cân wych.

Daeth y dathliadau i ben gyda sylwadau gobeithio gan Donna Dickenson, Pennaeth Atal a Chefnogi, a ddywedodd “Gall yr holl bobl ifanc hyn fod yn hynod o falch o’u cyflawniadau ynghyd â’u rhieni a ddarparodd gefnogaeth ddiamod trwy gydol eu siwrnai. Mae’n wirioneddol ysbrydoledig i glywed eu straeon ac rwy’n eu llongyfarch nhw oll.”

Mae cyflawni’r wobr yn gyflawniad anhygoel gyda’r nod o ennill Aur, ac yn ystod eu siwrnai Dug Caeredin, mae cyfranogwyr yn archwilio sgiliau a heriau newydd, datblygu cyfleoedd i wella eu gwybodaeth a galluoedd mewn pum maes: Gwirfoddoli, Gweithgarwch Corfforol, Sgiliau, Teithiau yn ogystal â Gweithgareddau Preswyl.

Mae Dug Caeredin Wrecsam wedi bod yn cefnogi ei bobl ifanc i gyflawni eu gwobrau am dros 30 mlynedd, gyda phobl ifanc o Wrecsam yn dewis cymryd rhan mewn amryw o ddiddordebau a gweithgareddau ac mae’r rhaglenni’n cael eu personoli yn ôl y diddordebau a’r hoffterau hyn.

Os ydych chi dan 23 oed, neu’n adnabod person ifanc a fyddai’n hoffi cael yr her o wneud Gwobr Efydd, Arian neu Aur Dug Caeredin, cysylltwch â thîm Gwobr Dug Caeredin sydd wedi eu lleoli yng Nghanolfan Pobl Ifanc Victoria ar nosweithiau Llun neu Fercher ar 01978 317958 neu ffôn symudol 07800689102 o 6.00pm tan 8.30pm, fel arall anfonwch e-bost i dofe@wrexham.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Dug Caeredin, ewch i wefan Gwobr Dug Caeredin.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol demn Mae’r Bws Dementia Rhithiol yn ôl ar daith o gwmpas Wrecsam ym mis Mehefin!
Erthygl nesaf Order and Collect Newyddion Llyfrgelloedd: Big Jubilee Read

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English