Cafodd plant ysgol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint eu gwobrwyo’n ddiweddar am eu hymdrechion gwych i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach y tu allan i’r ysgol.
Cafodd Gwobr Aur y Siarter Iaith ei chyflwyno i ddeuddeg ysgol ar draws y ddwy fwrdeistref mewn seremoni yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, gyda disgyblion yn mynd ar y llwyfan i dderbyn eu gwobrau.
Cyfres o amcanion a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yw’r Siarter Iaith, gyda’r nod o annog mwy o ddefnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg ymhlith pobl ifanc, gan sicrhau nad yn yr ystafell ddosbarth yn unig y defnyddir y Gymraeg.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r gwaith y mae ysgolion yn ei wneud yn cefnogi ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at flaenoriaethau a nodwyd yng Nghynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint.
Dechreuodd ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint ar eu siwrnai Siarter Iaith yn 2016, a dros y tair blynedd diwethaf, mae pob un o’r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi derbyn gwobrau efydd ac arian – ac erbyn Gorffennaf 2019, roedd pob un o’r ysgolion wedi llwyddo i ennill gwobr aur.
Roedd yr ysgolion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i gael disgyblion i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn amlach, a chafodd disgyblion gyfle i roi eu barn.
Yr ysgolion a dderbyniodd y wobr oedd:
Wrecsam
- Ysgol ID Hooson
 - Ysgol Bryn Tabor
 - Ysgol Bodhyfryd
 - Ysgol Cynddelw
 - Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog
 - Ysgol Min y Ddol
 - Ysgol Bro Alun
 - Ysgol Plas Coch
 
Sir y Fflint
- Ysgol Croes Atti
 - Ysgol Glanrafon
 - Ysgol Mornant
 - Ysgol Terrig
 
Ar ôl y seremoni, fe wnaeth plant gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda chydlynwyr o’r Urdd.
Meddai Bethan Morris, Cydlynydd y Siarter Iaith – sy’n gweithio ar y cyd ar ran Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint: “Llongyfarchiadau i’r holl ysgolion hynny wnaeth dderbyn gwobr aur y Siarter Iaith – y staff a’r disgyblion.
“Mae pob ysgol a oedd ynghlwm â hyn wedi gweithio’n galed er mwyn cyflawni eu hamcanion Siarter Iaith, ac mae pob ysgol wedi gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau fod disgyblion yn defnyddio’r Gymraeg ymhlith ei gilydd y tu allan i’r ysgol yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

 
 
 
 
 
 












 
 