Bydd Sian Hughes, enwebai ar restr hir Gwobr Booker 2023, yn lansio gŵyl lenyddol eleni yn Llyfrgell Wrecsam nos Fercher 27 Mawrth, 7pm.
Roedd y bardd arobryn Sian ar restr hir Gwobr Booker 2023 am ei nofel gyntaf wych Pearl wedi’i gosod ychydig dros y ffin yn Tilston, Swydd Gaer. Bydd Sian yn siarad am ei hysbrydoliaeth ar gyfer ei nofel wych a’r hyn a beth mae’n ei olygu i fod ar y rhestr hir ar gyfer gwobr llyfr mawreddog.
Bydd awdur trosedd a beirniad cystadleuaeth Pwy Laddod? yr ŵyl, Simon McCleave, hefyd yn cyhoeddi enillydd y gystadleuaeth Pwy Laddodd? eleni yn y digwyddiad agoriadol hwn. I gael rhagor o fanylion am yr ŵyl ac i brynu eich tocynnau ewch i Gŵyl Geiriau Wrecsam
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Ymgyrch yn galw am gydnabyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer miloedd o ofalwyr ifanc llawn ysbrydoliaeth yng ngogledd a chanolbarth Cymru