Mae annog plant i ddarllen yn bwysig iawn.
Ac mae’n well byth os gallwch chi eu hannog i ddarllen mewn mwy nag un iaith.
Bu i awdur lleol, Phil Burrows, ysgrifennu a chyhoeddi ei lyfr newydd, Emily and her Mums, yn gynharach eleni.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Ond ers hynny, mae wedi cael ei gyfieithu’n gyhoeddiad Cymraeg o’r enw Emily a’i Mamau.
Awdur ffuglen wyddonol yw Phil fel arfer a dyma’r tro cyntaf iddo roi cynnig ar ysgrifennu llyfr i blant.
I ddysgu mwy am lyfr Phil, gwyliwch y fideo byr uchod.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae cael plant i ddarllen a mwynhau darllen yn un peth – mae eu cael i gyrraedd pwynt lle maen nhw’n llythrennog ac yn hyderus mewn mwy nag un iaith yn beth arall.
“O’r hyn y mae Phil yn ei ddweud, mae ei lyfr wedi cael ei groesawu’n frwd ymysg plant, felly mae’n wych clywed ei fod wedi gweld gwerth ei gyfieithu i’r Gymraeg, gan ei gyflwyno i gynulleidfa sy’n siarad Cymraeg ac annog plant i ddarllen yr un stori mewn mwy nag un iaith.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb: “Nid yw cynrychioliad LGBT+ yn fater sy’n codi’n aml mewn llenyddiaeth plant, felly mae’n dda iawn gweld llyfr fel hwn wedi’i ysgrifennu gan awdur o Wrecsam.”
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN