Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 Gwrthrych
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 Gwrthrych
Pobl a lleY cyngor

Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 Gwrthrych

Diweddarwyd diwethaf: 2018/04/18 at 1:53 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham FC
RHANNU

Mae arddangosfa newydd sy’n agor yn Amgueddfa Wrecsam yn seiliedig ar y sialens o ddweud hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 gwrthrych.

Cynnwys
Miloedd o flynyddoedd o hanes”“Ardal gyfoethog o ran treftadaeth a diwylliant”“Gynrychiolaeth hynod amryfal o orffennol yr ardal”“Mae hi wir yn anrhydedd i ni”

Yr arddangosfa hon yw penllanw prosiect dwy flynedd Cronfa Treftadaeth y Loteri gan Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, a sefydlwyd i ddathlu, gwarchod a hyrwyddo treftadaeth gyfoethog ffindiroedd Gogledd Ddwyrain Cymru.  Fe ddaeth y Fforwm â grwpiau treftadaeth cymuned o’r ardal gyfan at ei gilydd a gofyn iddynt awgrymu gwrthrychau oedd yn cynrychioli agwedd ar ein hanes lleol.  Wrth i’r awgrymiadau lifo i mewn fe ddechreuodd y gwaith o ganfod yr eitemau a sicrhau eu bod ar gael i’w gweld yn yr arddangosfa unigryw hon.

Miloedd o flynyddoedd o hanes”

Mae’r 100 terfynol yn cynrychioli miloedd o flynyddoedd o hanes o’r olion cyntaf o fywyd dynol hyd at dechnoleg yr unfed ganrif ar hugain.  Mae’r arddangosfa yn rhannu’n chwe adran:

  • Trigolion Cynnar
  • Cestyll a Gwrthdaro
  • Dyfeisiadau Diwydiannol
  • Teithio a Thrafnidiaeth
  • Crefydd a Diwylliant
  • Bywyd Bob Dydd

Mae yma gasgliad eclectig o bethau yn dangos amrediad o asgwrn gên ceffyl cynhanesyddol o Ogof y Gop, pennau saethau o Gastell Dinbych, cwrwgl Afon Dyfrdwy, het ysmygu’r bardd John ‘Ceiriog’ Hughes, ‘manilla’ copr o Ddyffryn Maesglas i asen awyren Airbus o’r oes hon.

Mae myfyrwyr o Adran Diwydiannau Creadigol Prifysgol Glyndŵr wedi cyfrannu drwy greu darnau sain sy’n gysylltiedig â rhai o’r gwrthrychau.

“Ardal gyfoethog o ran treftadaeth a diwylliant”

Eglurodd Pennaeth CDL Cymru, Richard Bellamy, y rheswm pam fod y prosiect yma’n ddigon pwysig i gael Grant: “Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn ardal gyfoethog o ran treftadaeth a diwylliant. Nid yw’r prosiect uchelgeisiol yma’n ymwneud â diogelu casgliadau yn unig, mae hefyd yn golygu eu bod yn ystyrlon ac yn hygyrch i bobl heddiw. Gyda chymorth chwaraewyr y loteri genedlaethol, bydd yr arddangosfa newydd gyffrous hon yn rhoi cyfle i bobl ddysgu, mwynhau a chael eu trochi yn eu treftadaeth unigryw y gallant fod yn hynod o falch ohonyn nhw.”

“Gynrychiolaeth hynod amryfal o orffennol yr ardal”

Dywedodd Dr Shaun Evans, Cadeirydd y Fforwm, “Dewiswyd y can gwrthrych a’u rhoi mewn grwpiau i ddarlunio themâu sy’n gwau eu ffordd drwy hanes y fro.  Mae’r canlyniad yn gynrychiolaeth hynod amryfal o orffennol yr ardal, yn ymestyn dros ganrifoedd ac yn cynnwys eitemau o bob rhan o Ogledd Ddwyrain Cymru.  Gwahoddwn drigolion yr ardal i ymweld â’r arddangosfa a thrin yr arddangosfa fel mynedfa i archwilio ymhellach a darganfod ein trefi a’n pentrefi, ein tirwedd, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd ac archifau.”

Ychwanegodd, “Diolch yn fawr i’r holl grwpiau, mudiadau ac unigolion sydd wedi caniatau i ni gynnwys eitemau o’u casgliadau yn yr arddangosfa – heb eu cefnogaeth ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl.  Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri am ariannu’r prosiect dwy flynedd.  Rydym yn falch o gael cynnal yr arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r tîm.”

“Mae hi wir yn anrhydedd i ni”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n cynrychioli’r nifer o amgueddfeydd, archifdai, grwpiau treftadaeth cymunedol, cymdeithasau ac unigolion ledled y rhanbarth, am gloi’r prosiect dwy flynedd hwn yn Amgueddfa Wrecsam.  Mae hi wir yn anrhydedd i ni, a gwn y bydd nifer o bobl yn cymryd mantais llawn o’r cyfleusterau gwych sydd yma ac yn ymweld â’r arddangosfa. Da iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn.”

Mae’r arddangosfa, rhad ac am ddim, ymlaen yn Amgueddfa Wrecsam o 21 Ebrill tan 30 Mehefin 2018.  Cyhoeddir llyfr i gyd-fynd â’r arddangosfa Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 Gwrthrych fydd ar gael o Amgueddfa Wrecsam a siopau lleol eraill, gan gynnwys Y Siop Lyfrau yn yr Wyddgrug a siopau llyfrau Rhuthun.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 297 460 neu ewch i www.wrexham.gov.uk/heritage a www.newalesheritageforum.org.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Sut fath o rôl mae’r sector gwirfoddol yn chwarae mewn argyfwng? Darllenwch hon… Sut fath o rôl mae’r sector gwirfoddol yn chwarae mewn argyfwng? Darllenwch hon…
Erthygl nesaf NODWCH: Os yw’ch noson yn mynd ar chwâl, dyma le y gallwch fynd am help NODWCH: Os yw’ch noson yn mynd ar chwâl, dyma le y gallwch fynd am help

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor Mawrth 2, 2026
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg Chwefror 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English