Mae’n bosibl y bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam a’i berchnogion, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, yn derbyn hawl i ‘ryddid y fwrdeistref sirol.’
Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth, 8 Tachwedd i gydnabod hanes hir a balch y clwb, a chyfraniad arbennig y ddau berchennog at hyrwyddo Wrecsam ar draws y byd.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr argymhellion yn mynd gerbron y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Pêl-droed yw calon ein cymuned ac mae yna angerdd a chefnogaeth anhygoel i’r clwb.
“Mae gennym hanes anhygoel yma yn Wrecsam, ynghyd â chymeriad a hunaniaeth unigryw sy’n denu cefnogwyr o bob cwr o’r byd.
“Mae dau actor Hollywood wedi cael effaith sylweddol ar y clwb pêl-droed a’r gymuned, ac wedi helpu i ddathlu Wrecsam ar lwyfan byd-eang.
“Mae’r ddau ohonynt yn unigolion hyfryd sydd wedi rhoi popeth i’r ddinas hon, ac mae’n teimlo fel yr adeg iawn i ni ystyried sut y gallwn gydnabod hynny.”
Hanes balch
Clwb Pêl-droed Wrecsam yw’r trydydd clwb pêl-droed proffesiynol hynaf yn y byd. Dyma rai ffeithiau allweddol:
- Sefydlwyd y clwb ym 1864.
- Ym 1877, cynhaliwyd y clwb gêm gartref ryngwladol gyntaf Cymru ar y Cae Ras.
- Ym 1935, denwyd 24,086 o gefnogwyr i gêm leol yn erbyn Dinas Caer.
- Mae’r chwaraewyr cofiadwy dros y cenedlaethau’n cynnwys Joey Jones, Mickey Thomas, Dixie McNeil…a Tommy Bamford sydd wedi sgorio 175 o goliau cynghrair i’r clwb.
- Mae’r llwyddiannau cofiadwy’n cynnwys ennill yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Porto ym 1983, Arsenal ym 1992, a Middlesbrough ym 1999.
- Prynodd cefnogwyr y clwb yn 2011, ac enillodd tîm Andy Morrell Dlws yr FA yn 2013.
- Prynodd actorion Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds y clwb ym mis Chwefror 2021.
Galwch ddarllen mwy yn yr erthygl ddiddorol ar wefan y clwb.
The time is right
Yr adeg iawn
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae Pêl-droed yng ngwaed Wrecsam, ac mae llwyddiannau’r clwb bob amser wedi cael dylanwad mawr ar ein cymuned.
“Rydym yn byw ac yn mwynhau cyfnod cyffrous iawn ac rwy’n falch bod y cynnig yn mynd gerbron y Bwrdd Gweithredol.
“Mae’r perchnogion yn ein helpu i hyrwyddo Wrecsam fel cyrchfan sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, ac mae arnom ni angen meddwl am sut gallwn gydnabod hynny.
“Maent wedi cael effaith anhygoel ar ein cymunedau.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI