Dydd Mawrth, 17 Hydref oedd ein ‘Diwrnod Helpu Ceidwad’ cyntaf, gan roi cyfle i wirfoddolwyr gael profiad ymarferol gyda’r gwaith o gynnal a chadw Parc Gwledig Dyfroedd Alun.
Bydd y cyntaf mewn cyfres o weithgareddau gwirfoddoli ymarferol, Diwrnod Helpu Ceidwad, yn newid rhwng ein parciau a byddant yn cael eu cynnal ar ddiwrnodau gwahanol o’r wythnos, gan roi cyfle i bawb ar draws y sir gymryd rhan yn y parc sydd agosaf atyn nhw.
Bydd pob digwyddiad yn wahanol, yn dibynnu ar y tywydd, y tymor a’r gwaith sydd angen ei gyflawni. Bydd Ceidwad yno i’ch tywys drwy’r tasgau a sut mae gwaith cynnal a chadw yn gweithio yn y parciau. Mae’n ffordd fuddiol o gymryd rhan, cyfarfod pobl newydd a dysgu sgiliau newydd.
Mae’n bosibl y bydd rhai o’r digwyddiadau yma ger caffi neu gyfleusterau i brynu bwyd a diod, ond fe argymhellir eich bod yn dod â chinio parod a diod gyda chi. Fe ddylech hefyd wisgo dillad addas, megis trowsus hir, esgidiau cryfion a chôt law.
Os oes gennych chi ddiddordeb dysgu mwy am hyn, neu ein cyfleoedd gwirfoddoli sydd i ddod, cysylltwch â ni drwy e-bostio LocalPlacesForNature@Wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.