Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpu’r siop ailddefnyddio (a gadewch i’r siop eich helpu chi) yn Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Helpu’r siop ailddefnyddio (a gadewch i’r siop eich helpu chi) yn Nadolig hwn
Y cyngor

Helpu’r siop ailddefnyddio (a gadewch i’r siop eich helpu chi) yn Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 10, 2021 9:13 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Reuse shop Christmas Recycling
RHANNU

Ydych chi dal angen anrheg Nadolig arbennig sy’n fforddiadwy ac mewn cyflwr da? Rydym yn gwybod am y lle perffaith i ddod o hyd i hyn, ac fe gewch y mantais ychwanegol o gefnogi elusen lleol pan fyddwch yn prynu.

Cynnwys
  • Os oes angen help arnoch i lenwi’ch hosanau Nadolig…
  • Awydd noson ffilmiau?
  • Ydych chi am wella’ch ffitrwydd yn 2022?
  • Ail-roddwch eich anrhegion di-eisiau
  • Cyfrannwch drwy gydol y flwyddyn
  • Oriau agor

Gallwch ddod o hyd i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane! Mae llawer o bobl yn ei hadnabod fel ogof Aladdin (er fod ogof Sion Corn yn fwy priodol ar hyn o bryd).

Wrth i’r Nadolig nesáu mae llawer o bethau yn y siop ailddefnyddio y gallech eu prynu i ledaenu hwyl yr ŵyl.

Eglurodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, “Mae’r siop ailddefnyddio yn y ganolfan ailgylchu Bryn Lane ac mae’n fan lle’r ydych yn prynu eitemau o ansawdd dda sydd wedi cael eu hailgylchu. Mae ganddynt bob amser ystod eang o stoc sydd yn fargenion, a byddem yn awgrymu i bawb fynd yno i weld dros eu hunain.

“Gallwch gyfrannu eitemau gyda gwerth ailwerthu yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu, a chânt eu pasio i’r siop ailddefnyddio. Os mai prynu neu gyfrannu ydych chi, byddwch yn helpu achos lleol dda yn Hosbis Tŷ’r Eos sydd yn gwneud gwaith gwirioneddol dda yn eu hardal leol.”

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Os oes angen help arnoch i lenwi’ch hosanau Nadolig…

Bydd y siop ailddefnyddio yn siŵr o fedru’ch helpu. Os ydych yn ystyried prynu teledu, ewch draw i gael cipolwg… fel arfer mae llwyth o rai o feintiau amrywiol ar gael.

Ac os ydych yn ansicr ynglŷn â phrynu teledu wedi’i ddefnyddio, cofiwch bod pob eitem yn cael eu glanhau a’u bod yn cael profion diogelwch cyn iddyn nhw gael eu gwerthu ????

Ond os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig yn llai, fel arfer mae detholiad o eitemau fel setiau rhodd, teganau, gemau cyfrifiadurol, gemau bwrdd ac addurniadau hyfryd ar gael i lenwi’ch hosanau Nadolig.

Awydd noson ffilmiau?

Gwych! Mae detholiad mawr o DVDs i chi ddewis ohonynt am bris rhesymol. Unai ffilm rhamantus, ffilm plant, ffilm cyffrous neu ddychrynllyd, mae ffilm ar gael i weddu eich hwyliau.

Ydych chi am wella’ch ffitrwydd yn 2022?

Adduned Blwyddyn Newydd poblogaidd yw cadw’n heini a lle da i ddechrau gwneud hyn bob amser yw beicio.

Oes angen beic arnoch chi? Dyma’r lle i chi!

Mae dewis helaeth iawn o feiciau ar gael yn y siop ailddefnyddio. O feiciau plant i feiciau oedolion, beth bynnag yr ydych yn chwilio amdano rydych yn siŵr o ddod o hyd iddo yn y siop ailddefnyddio ????

Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn hoffi cael beic yn anrheg Nadolig mewn gwirionedd. Mae pob beic yn cael eu storio y tu allan i’r siop felly gallwch gael cipolwg arnynt a’u gwirio cyn prynu felly dewch draw i weld.

Ail-roddwch eich anrhegion di-eisiau

Mae pawb wedi derbyn anrheg Nadolig di-eisiau rywbryd yn eu bywydau ????

Ond nid yw’r ffaith nad yw’r anrheg at eich dant chi yn golygu nad yw’n berffaith i rywun arall. Mae ail-anrhegu yn golygu rhoi’ch anrhegion di-eisiau i bobl eraill a byddai’r siop ailddefnyddio yn ddiolchgar iawn pe baech yn ystyried rhoi’r eitemau hyn iddyn nhw.

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Cyfrannwch drwy gydol y flwyddyn

Gallwch gyfrannu i’r siop ailddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, felly ym mis Ionawr, os nad ydych eisiau cadw eich coeden artiffisial neu addurniadau tan y flwyddyn ganlynol, bydd y siop yn hapus i’w cymryd nhw.

Bydd y siop yn cadw’r eitemau ac yn eu gwerthu nhw’r flwyddyn ganlynol. Byddent yn hapus i dderbyn cyfraniadau hyn yn oed tu allan i’r tymor.

Oriau agor

Mae’r siop ailddefnyddio ar agor yn ddyddiol rhwng 9am – 4:30pm, ond bydd yn cau ar gyfer y Nadolig ar ddydd Mercher, Rhagfyr 21. Ystyriwch hyn os ydych yn cynllunio galw heibio.

Yna bydd y siop yn ail-agor yn y flwyddyn newydd ar ddydd Mawrth, 4 Ionawr.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid Pass Atgoffa Yng Ynglŷn â’r Pàs Covid
Erthygl nesaf Hafan y Dref Hafan y Dref ar agor i rai sydd angen help tra byddant yn mwynhau noson allan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English