Mae’n dymor plannu coed a bydd staff yr Amgylchedd ar Gaeau Chwarae Bradle ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd rhwng 10am a 4pm.
Mae croeso i bawb, cofiwch wisgo dillad cynnes ac esgidiau/welis cadarn.
Os hoffech gysylltu i wirfoddoli neu wneud sylw am y cynllun plannu coed cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk. Cefnogir y digwyddiad gan Gronfa Coed mewn Argyfwng Coed Cadw.
Mae’n hanfodol nawr yn fwy nag erioed i ddefnyddio ein mannau gwyrdd agored i ymateb i natur ac argyfwng hinsawdd a wynebir gennym. Bydd prosiectau plannu coed fel hyn yn datblygu cysylltedd rhwng cynefinoedd presennol, gwella gwytnwch ecosystem yn ogystal â chreu mannau croesawgar a phleserus i ymweld â nhw.
Rydym bob amser yn chwilio am ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gyfrannu at ein cynlluniau plannu coed, felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gallwch gysylltu drwy woodlandpledge@wrexham.gov.uk
Gallwch chi hefyd ddangos eich cefnogaeth ar gyfer amddiffyn coed a choetiroedd yn Wrecsam trwy Addewid Coetir Wrecsam ar ein gwefan Addewid Coetir Wrecsam Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thrwy Facebook a twitter.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Tarwch olwg ar ein Diwrnod Helpu Ceidwad cyntaf yn Nyfroedd Alun
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch