Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch i ledaenu’r neges! Adnewyddwch cyn mis Medi er mwyn osgoi colli unrhyw gasgliadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Helpwch i ledaenu’r neges! Adnewyddwch cyn mis Medi er mwyn osgoi colli unrhyw gasgliadau
Y cyngor

Helpwch i ledaenu’r neges! Adnewyddwch cyn mis Medi er mwyn osgoi colli unrhyw gasgliadau

Diweddarwyd diwethaf: Awst 4, 2022 9:33 am
Rhannu
Darllen 5 funud
green bin
RHANNU

Ydych chi wedi adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd eto? Bydd angen i chi wneud hynny cyn diwedd y mis os ydych eisiau i ni gasglu eich gwastraff gwyrdd rhwng mis Medi 2022 – mis Medi 2023.

Cynnwys
  • “Helpwch i ledaenu’r neges!”
  • Talwch ar-lein ble’n bosibl
  • Sticeri newydd ar gyfer 2022/23
  • Dim taliadau arian parod na sieciau
  • Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
  • Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd cyn mis Medi i wneud eich taliad ar-lein. Dyma’r ffordd mwyaf cyflym a hawdd i dalu, ac rydych chi’n cael gwneud hynny ar adeg sy’n gyfleus i chi. Sicrhewch eich bod wedi cofrestru erbyn mis Medi i osgoi colli unrhyw gasgliadau.

Mae’r gost ar gyfer 2022/23 yn aros yr un fath sef £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, a bydd y gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun, 5 Medi 2022 tan ddydd Gwener, 1 Medi 2023.

Os ydych wedi talu ar gyfer casgliad gwastraff gardd y llynedd (2021/22), bydd eich bin(iau) gwyrdd yn parhau i gael ei gasglu/eu casglu tan 2 Medi.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

“Helpwch i ledaenu’r neges!”

Hyd yn oed os ydych eisoes wedi adnewyddu eich bin gwyrdd eich hun, mae’n werth gwirio a ydy eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymdogion wedi cofio adnewyddu ar gyfer y casgliad newydd hefyd.

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Rydym yn gofyn i breswylwyr ein helpu i ledaenu’r neges gan ein bod eisiau sicrhau fod pawb yn cael y gwerth gorau o’r gwasanaeth. O bosib nad yw rhai aelodau o’ch teulu, ffrindiau neu gymdogion wedi sylwi fod angen adnewyddu eu bin gwyrdd cyn mis Medi er mwyn osgoi colli unrhyw gasgliadau. Os ydych yn dal i fyny gyda ffrindiau neu aelodau o’r teulu, neu’n gweld eich cymdogion yn mynd heibio sy’n defnyddio’r gwasanaeth, gwiriwch eu bod nhw’n ymwybodol fod angen adnewyddu. Diolch.”

Talwch ar-lein ble’n bosibl

Y ffordd hawsaf i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad yw’n bosibl i chi dalu ar-lein, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd i dalu â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd rhaid i chi aros i wneud hynny. Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod yn talu am y gwasanaeth ar-lein.

Helpwch i ledaenu’r neges! Adnewyddwch cyn mis Medi er mwyn osgoi colli unrhyw gasgliadau

Sticeri newydd ar gyfer 2022/23

Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael pecyn sticer gyda sticer newydd, a ddylid ei arddangos ar gaead eich bin o fis Medi.

Gofynnwn i drigolion i BEIDIO â rhoi eu sticer newydd ar gaead eu bin nes fod y gwasanaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Dylech barhau i arddangos eich sticer 2021/22 nes fod y gwasanaeth yn dod i ben ar 2 Medi.

Dim taliadau arian parod na sieciau

Yn y blynyddoedd diwethaf, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni ailadrodd; nid oes modd i ni dderbyn y taliadau hyn.

Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?

Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.

Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol microphone Mae noson gomedi Tŷ Pawb yn ôl!
Erthygl nesaf Dogs on Lead Berchnogion Cŵn – darllenwch i gael gwybod lle y gellwch fynd gyda’ch ci, a lle na ellwch fynd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English