Mae gwyddoniaeth o’ch cwmpas ym mhob man. Ydych chi’n bobydd gwych? Neu gefnogwr cerddoriaeth mega? Ai chi yw’r dewin technoleg ymhlith eich ffrindiau?
Ymunwch â’r Gadgeteers ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf i ddarganfod yr arloesi gwyddonol anhygoel y tu ôl i’r byd o’ch cwmpas, gan gynnwys rhai o’ch hoff bethau.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Ddarllen yr Haf yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod gwyliau’r haf, a thema eleni “yw Teclynwyr”.
Gallwch gofrestru yn eich llyfrgell leol, a’r cyfan y mae angen i chi ei wneud i gwblhau’r Her yw ymweld â’r llyfrgell o leiaf dair gwaith a darllen chwech llyfr llyfrgell o’ch dewis chi.
Mae yna wobrau unigryw i’w casglu ar hyd y ffordd, a gallwch gymryd rhan yn RHAD AC AM DDIM! Gallwch hefyd gadw cofnod o’ch darllen drwy fynd i wefan Her Ddarllen yr Haf, lle gallwch chi ddod o hyd i lyfrau newydd i’w darllen, cymryd rhan mewn cystadlaethau a heriau bychain a chwarae gemau. Peidiwch ag oedi – ymunwch, heddiw!
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH