Newyddion da i gefnogwyr cerddoriaeth fyw! Mae cyngherddau amser cinio byw Tŷ Pawb yn dychwelyd am dymor newydd y Gwanwyn o 10 Ionawr!

Mae Rhaglen Cerddoriaeth Fyw Tŷ Pawb wedi’i chynllunio i hyrwyddo talentau cerddoriaeth leol o bob arddull. Yn cefnogi Dydd Iau Pawb, mae’r cyngherddau amser cinio rhad ac am ddim yn cynnig ystod eang o gerddoriaeth yn amrywio o’r llwyfan a’r sgrin a clasuron poblogaidd hyd at gerddoriaeth werin a cherddoriaeth jas a blŵs.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Y rhaglen wanwyn lawn

Ionawr 10 – Ensemble Ewropeaidd Glyndŵr (Triawd)
Piano, Gitâr a Ffidil
NEWYDD: yn cynnwys lansiad swyddogol Gŵyl Gerdd Wrecsam (Pasg 2019)

Ionawr 17 – Owen Chamberlain Canwr a Chyfansoddwr
Gitâr
NEWYDD: Cyfoes

Ionawr 24 – Philip Chidell
Ffidil
Clasurol a Chyfoes, yn cynnwys cerddoriaeth o’r West End a’r Sgrin Arian

Ionawr 31ain – Stan Dickenson
Piano
NEWYDD

Chwefror 7fed – Myfyrwyr Coleg Cambria
NEWYDD: Tim Jones

Chwefror 14eg – Rachael Marsh gyda Daniel Bradford
Llais a Piano
NEWYDD: Rhaglen arbennig ar Ddydd San Ffolant

Chwefror 21ain – Belle Journée
Llais a Gitâr
NEWYDD: Cerddoriaeth gyda perswadiad nodedig Lladin a Ffrengig

Chwefror 28ain – Henry Soper
Piano
NEWYDD

Mawrth 7fed – Peter Leslie
Gitâr
NEWYDD

Mawrth 14eg – Robert Parry (i’w gadarnhau)
Llais a Piano

Mawrth 21ain – Bruce Davies
Piano

Mawrth 28ain – KC Valentine
Llais a Piano
NEWYDD

Ebrill 4ydd – Wandering Minds
Ffliwt a Bassoon
NEWYDD

Ebrill 11ydd – Ian Stopes a David Hopkins
Gitâr a Chwythbren
NEWYDD: ‘The Garden Suite’

Ebrill 15fed i’r 18fed
Gŵyl Gerdd Wrecsam
6 Dosbarthiad Cerddorol
Hyd at 6 o ddosbarthiadau dydd Llun tan dydd Mercher (2 y dydd). Cyfraniad arbennig gan gerddor(ion) blaenllaw ar ddydd Iau.

Cefnogir Rhaglen Gerddoriaeth Fyw Tŷ Pawb gan Gerddorfa Symffoni Wrecsam, Calon FM, The Music Place, a Marchnadoedd, Siopau ac Ardal Fwyd Tŷ Pawb.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

YMGEISIWCH NAWR