Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hope House a Tŷ Gobaith yn lansio’r apêl codi arian gofal mwyaf erioed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Hope House a Tŷ Gobaith yn lansio’r apêl codi arian gofal mwyaf erioed
ArallPobl a lle

Hope House a Tŷ Gobaith yn lansio’r apêl codi arian gofal mwyaf erioed

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 19, 2021 2:21 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Jane Evans
Pan fu farw Evan Williams o Ogledd Cymru yn sydyn yn ei gwsg wythnosau cyn ei ben-blwydd yn 13, dywedodd ei fam Jane, bod yr hosbis wedi bod yn gefn iddynt.
RHANNU

Erthygl gwadd gan Tŷ Gobaith

Mae hosbis plant yn gofyn i bobl Gogledd a Chanolbarth Cymru, Swydd Amwythig a Swydd Gaer i gyfrannu’n hael wrth iddo geisio codi £500,000 mewn 36 awr i gyllido gofal ddiwedd oes ar gyfer plant a theuluoedd am flwyddyn gyfan.

Bydd eu hymgyrch Final Moments Matter yn cael ei gynnal o 10am ddydd Sul, Tachwedd 21 tan 10pm ddydd Llun, Tachwedd 22.

Mae busnesau lleol a chefnogwyr allweddol eisoes wedi addo £250,000 o gefnogaeth. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer pob cyfraniad a wneir yn ystod y cyfnod 36 awr. Dim ond os fydd £250,000 yn cael ei roi gan y cyhoedd y bydd yr addewidion arian cyfatebol yn cael eu datgloi yn llawn a bydd £500,000 wedi’i godi.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Codi Arian, Simi Epstein, ei bod yn gobeithio y bydd y gymuned yn dod ynghyd fel un i gofleidio teuluoedd lleol oedd yn torri eu calonnau ac i helpu i sicrhau nad oeddent ar eu pennau eu hunain yn eu poen a’u gofid.

“Yn Hope House a Tŷ Gobaith rydym yn gwybod bod yr amseroedd olaf yn bwysig ac y dylai momentau olaf bywyd plentyn fod mor arbennig â’u cyntaf,” dywedodd.

“Felly ein bwriad ni yw sicrhau nad yw unrhyw un yn wynebu marwolaeth plentyn ar eu pen eu hunain, fel bod pob teulu sy’n wynebu marwolaeth plentyn yn derbyn y gofal a chymorth gorau bosibl lle bynnag, a phryd bynnag maent ei angen.

“Rydym wedi derbyn addewid o £250,000 o arian cyfatebol i’n galluogi ni i gyrraedd ein nod. Ond rydym angen eich cymorth i ddatgloi’r arian.”

Bydd yr ymgyrch codi arian ar lein, ac fe ofynnir i gefnogwyr ddod yn ‘Arweinwyr Tîm’ a lledaenu’r neges drwy rannu negeseuon a fideos am waith yr hosbis ar y cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost a WhatsApp er mwyn ysgogi cefnogaeth gan bobl maent yn eu hadnabod.

Pan fu farw Evan Williams o Ogledd Cymru yn sydyn yn ei gwsg wythnosau cyn ei ben-blwydd yn 13, dywedodd ei fam Jane, bod yr hosbis wedi bod yn gefn iddynt.

“Nid oedd gan Evan salwch o gwbl. Roedd yn ffit ac yn iach ac fe aeth i’w wely a bu farw yn ei gwsg,” dywedodd.

“Fe ddois o hyd iddo pan es i’w godi yn y bore. Roedd yn sioc mawr i ni gyd. Os na fuasai Hope House wedi bod yn gefn i ni, dydw i ddim yn siŵr beth fuasem ni wedi’i wneud.”

Os hoffech gymryd rhan yn yr ymgyrch Final Moments Matter, unai trwy gynnal tîm codi arian neu wneud cyfraniad, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar hopehouse.org.uk/fmm neu ffoniwch y Swyddfeydd Codi Arian ar 01691 671671.

Gallwch hefyd ddilyn Hope House a Tŷ Gobaith ar y sianeli Cyfryngau Cymdeithasol i ddilyn cynnydd yr ymgyrch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dathliadau wrth i faes chwarae newydd agor ym Mhentre Broughton Dathliadau wrth i faes chwarae newydd agor ym Mhentre Broughton
Erthygl nesaf Refugee Support Sut i helpu Pobl sy’n Ceisio Lloches yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English