Wrexham, Broughton Heights housing estate Play Area. Picture Cllr Beverley Parry-Jones, Eryn Finley age 3, Tom Jeffs and Edward

Mae maes chwarae newydd i blant bach a phlant ifanc wedi agor ym Mannau Broughton.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Mae’r maes chwarae newydd wedi cael ei agor yn swyddogol ar ôl digwyddiad i’w lansio lle ‘roedd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones a Chyngor Cymuned Broughton yn bresennol.

Yn y cyfleuster newydd mae offer chwarae yn cynnwys aml uned gyda llithrenni a wal ddringo, siglenni, dysglau troelli, si-so â sbring a mainc parc, yn ogystal â man ar gyfer chwarae anffurfiol.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones “Mae hi’n wych gweld y maes chwarae yma’n cael ei ddefnyddio gan blant lleol. Mae’r cyfleuster yma’n cael ei groesawu’n fawr yn y gymuned a dwi’n siŵr y bydd yn cael ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.”

Cafodd y cynllun ei ariannu gan daliad Adran 106 gwerth £30,000 a gafwyd gan y Datblygwr Tai i wella cyfleusterau i breswylwyr lleol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad a gwaith rheoli gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y cyd â Chyngor Cymuned Broughton a roddodd adborth ynglŷn â pha gyfleusterau chwarae yr hoffent ei weld yn cael ei adeiladu i’r plant lleol ei fwynhau.

Cafodd y dylunio buddugol ei gynhyrchu gan HAGs-SMP a chafodd yr offer ei osod gan gwmni lleol o Wrecsam, ACE Play.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL