Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hwb Lles Wrecsam yn agor yn swyddogol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Hwb Lles Wrecsam yn agor yn swyddogol
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Hwb Lles Wrecsam yn agor yn swyddogol

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 5, 2022 11:32 am
Rhannu
Darllen 6 funud
wellbeing hub opening
Wellbeing Hub official opening at Crown Building, Wrexham.
RHANNU

Mae Ardal Iechyd a Lles NEWYDD o’r radd flaenaf yng nghanol y dref, sy’n cael ei galw’n “Hwb Lles” wedi agor ei drysau’n swyddogol.

Mae’r Hwb Lles, ar Stryt Caer, yn lle amlasiantaeth newydd sy’n darparu gweithgareddau integredig cymunedol, iechyd, gofal cymdeithasol ac ataliol trydydd sector a gwasanaethau gofal a chymorth eraill mewn lle diogel, gyda chyfleusterau hygyrch, i bob oed a gallu. Mae’n ategu’r ddarpariaeth gwasanaeth sy’n bod eisoes ar gyfer iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles.

Mae’r Hwb Lles yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a Chyngor Wrecsam a bydd yn galluogi pobl i gael gwybodaeth a chyngor yn haws i fyw bywydau mwy iach a hapus.

Wrth agor yr Hwb yn swyddogol, dywedodd Maer Wrecsam, y Cyng. Brian Cameron: “Mae’r Hwb Lles yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth. Mae pobl yn gallu cael y wybodaeth a’r help maen nhw ei angen mewn un lle hygyrch. Yn ogystal â’r gwasanaeth gwych hwn, mae’r Hwb hefyd yn gartref i gyfleusterau o’r radd flaenaf sydd ar gael i grwpiau cymunedol lleol eu defnyddio. Rwyf yn annog pawb i ddod i weld beth mae’r Hwb yn gallu ei gynnig i chi.”

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

Ychwanegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:  “Rwyf wrth fy modd o glywed y bydd y gymuned leol yn Wrecsam, gyda chefnogaeth gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru yn cael mynediad at hwb lles, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth pan fyddant ei angen fwyaf. Enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ar ei orau.”

Dywedodd Andrea Hughes, Cyfarwyddwr Nyrsio Cymunedol Iechyd Integredig (y Dwyrain): “Bydd yr Hwb newydd o fudd mawr i’r gymuned ac yn galluogi pawb i gael gwybodaeth a chefnogaeth yn hawdd pan maen nhw ei angen. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pobl wyneb yn wyneb ac mi hoffwn i annog unrhyw un sydd efallai yn bryderus neu sydd â chwestiynau am eu lles i ddod i siarad efo ni er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth gywir iddyn nhw. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill dan un to, gallwn gynnig ffordd holistig o helpu’r rhai sy’n dod i mewn neu eu cyfeirio nhw at y lle cywir.”

Dywedodd Dawn Roberts-McCabe, Prif Swyddog Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam: “Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda CBSW a BIPBC ar yr Hwb Iechyd a Lles arloesol hwn a fydd o fudd i gymuned Wrecsam.  Byddwn yn annog sefydliadau trydydd sector o bob maint i ddefnyddio’r lle modern, hyblyg a chroesawgar sydd yma.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol Cyllid Cyngor Wrecsam: “Bydd y ganolfan les yn darparu gwasanaeth pwysig ar gyfer pobl Wrecsam, ac rwy’n falch bod y cyfleuster bellach ar agor.

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am weithio gyda ni ar y prosiect hwn, yn ogystal â phartneriaid a chynghorwyr am gefnogi’r fenter.”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae Hwb Wrecsam yn ychwanegiad sy’n cael ei groesawu yng nghanol tref Wrecsam. Bydd yn helpu i annog iechyd a lles ac yn helpu pobl leol i heneiddio’n dda.”

Cafodd y plac swyddogol ei ddadorchuddio gan y grŵp Safonau Gwasanaethau Wrecsam (SWS). Mae’r grŵp SWS yn grŵp o breswylwyr Wrecsam sydd wedi eu hatgyferio at, ac yn gweithio gydag adran gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Wrecsam i wella bywydau’r rhai sy’n byw gydag anableddau yn Wrecsam.

Nod yr hwb yw ei gwneud yn gynt ac yn haws i bobl gael y wybodaeth, y gefnogaeth a’r cyngor maent ei angen. Mae’n lle hawdd i gael gwybodaeth a chyngor ac mae mannau a chyfleusterau hygyrch yno, felly mae’r Hwb Lles yn berffaith i amrywiaeth o grwpiau cymunedol ei ddefnyddio.

Bydd Ymgynghorwyr Hwb Lles wrth law i roi gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau megis cynnig cymwynas, tlodi tanwydd a chynhwysiant digidol.  Bydd sesiynau galw heibio rheolaidd gan wasanaethau megis Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, Adran Gwaith a Phensiynau, Cymunedau am Waith Wrecsam, Ffrindiau Teulu a Chymru Gynnes. Bydd rhaglen amrywiol o weithgareddau megis sesiynau ymarfer corff, bwyta’n iach a choginio, cefnogaeth i rieni, magu hyder a gweithgareddau i blant.

Am fwy o wybodaeth am yr Hwb Lles a’r gwasanaethau mae’n eu cynnig, ewch i’n gwefan neu chwiliwch am Hwb Lles Wrecsam ar Facebook.

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.yourvoicewrexham.com/arolwg/1663 “] Cymerwch ran yn ein harolwg
[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Madchester The Madchester Experience – 21/10/22 – Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Freedom Fibre Hwb i fand eang Wrecsam diolch i fuddsoddiad rhwydwaith ffibr llawn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English