Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hwyl hanner tymor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Hwyl hanner tymor
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Hwyl hanner tymor

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 18, 2019 10:40 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Hwyl hanner tymor
RHANNU

Mae hi bron yn hanner tymor, ond does dim lle i boeni ynghylch sut y gwnewch chi ddiddanu’r plant. Mae yna gymaint o bethau’n digwydd.

Felly, darllenwch trwy’r rhestr isod a byddwch yn barod gyda’ch dyddiadur!

Dydd Sadwrn, Chwefror 23 a Mawrth 2
Clwb Celf i’r Teulu
Tŷ Pawb
10am-12pm
Archwiliwch yr orielau a datblygu’r dychymyg a sgiliau gwneud yn y sesiwn hwn dan arweiniad artist ar gyfer plant a’u teuluoedd.
£2 fesul plentyn

Dydd Llun, Chwefror 25
Picnic yr Eirth Dan Do
Tŷ Pawb
10am-12pm
Gweithgareddau crefft, helfa drysor ac amser stori. Dewch â’ch picnic eich hun neu bachwch rywbeth o un o’r llefydd bwyta gwych ar y safle. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Ffoniwch 01978 292093 i archebu.
£2 fesul plentyn

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Dydd Llun, Chwefror 25
Amgueddfa Anniben
Amgueddfa ac Archif Wrecsam
10.30am-12pm
Arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau i wneud wynebau plât papur gwirion. 3 oed ac iau.
£2 fesul baban/plentyn bach

Dydd Llun, Chwefror 25
Chwilfa’r Adar
Mwyngloddiau Plwm a Pharciau Gwledig y Mwynglawdd
1-3pm
Gwneud bwydwr adar a mwynhau taith hwyliog o amgylch y parc gwledig, gan chwilio am adar fel yr ewch. Gwisgwch esgidiau addas. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Dydd Llun, Chwefror 25 a Dydd Mawrth, Chwefror 26
Amser Stori
Llyfrgell Wrecsam
2-2.30pm
Dewch i ymuno â ni am stori. Ar gyfer plant hyd at 4 oed.
Am ddim

Dydd Llun, Chwefror 25
Crefft
Llyfrgell Wrecsam
Drwy gydol yr wythnos, galwch heibio a mwynhau crefftau, chwileiriau a gweithgareddau eraill gyda’ch plant.
Am ddim

Dydd Mawrth, Chwefror 26
Chreu a Chymryd
Amgueddfa ac Archif Wrecsam
10.30am-12.30pm
Personolwch eich bachyn drws eich hun a mynd ag o adref gyda chi. 3 oed a hŷn.
£1 y grefft

Dydd Mawrth, Chwefror 26
Amser Stori Anhygoel
Llyfrgell Wrecsam
2-2.30pm
Amser stori arbennig gyda’r awdur lleol Sarah Parkinson. Bydd Sarah yn darllen ei stori a  bydd yna daflenni gweithgaredd a chaneuon a rhigymau.
Am ddim

Dydd Mercher, Chwefror 27
Tai Gwydr Bach
Parc Gwledig Tŷ Mawr
1.30-2.30pm
Gwneud eich tŷ gwydr eich hun a phlannu ynddo yn barod ar gyfer y gwanwyn.
£2.60 y person

Dydd Mercher, Chwefror 27
Stori a Rhigwm
Llyfrgell Rhiwabon
2-3pm
Amser stori i blant bach yn Llyfrgell Rhiwabon ar gyfer plant 0-3 oed.
Am ddim

Dydd Iau, Chwefror 28
Stori a Chân
Llyfrgell Wrecsam
2-2.30pm
Amser stori dwyieithog gyda rhigymau a straeon hwyliog i chi eu rhannu gyda’ch baban neu blentyn bach. Ffordd wych i ddatblygu sgiliau gwrando, meddwl a siarad eich plentyn.
Am ddim

Dydd Iau, Chwefror 28
Helfa Be Wela i a Gwehyddu Llygad Duw
Parc Gwledig Tŷ Mawr
1.30-3.30pm
Dewch i weld be welwch chi ar ein Helfa Be Wela i a rhoi cynnig ar wehyddu Llygad Duw.
£2.50

Dydd Gwener, Mawrth 1
Bingo Natur
Mwyngloddiau Plwm a Pharciau Gwledig y Mwynglawdd
10.30-11.15am neu 11.45am-12.30pm
Ymunwch â Kate am sesiwn hwyliog o fingo natur, archwilio’r parc gwledig a dysgu am fywyd gwyllt. Dewiswch pa sesiwn yr ydych am ddod iddi a gwisgwch ar gyfer yr awyr agored.

Dydd Sadwrn, Mawrth 2
Clwb Lego
Llyfrgell Wrecsam
10-11.30am
Rhaid archebu, ffoniwch 01978 292090.
£1.50 fesul plentyn

Os ydych awydd nofio, edrychwch ar y rhestr hon o amseroedd nofio AM DDIM, yn ogystal â gwersi nofio, erobeg dŵr i blant a sesiynau ffitrwydd.

Os hoffech wybodaeth am ynghylch mwy o ddigwyddiadau ledled y fwrdeistref sirol yn ystod hanner tymor mis Chwefror, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar 01978 292094 neu fis@wrexham.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ar ôl rhai gweithgareddau i blant y tymor hwn? Ewch a chreu llanast hefo Amgueddfa Wrecsam! Ar ôl rhai gweithgareddau i blant y tymor hwn? Ewch a chreu llanast hefo Amgueddfa Wrecsam!
Erthygl nesaf Capel Ebeneser, Cefn Mawr - Datganiad Capel Ebeneser, Cefn Mawr – Datganiad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English