Mae Kronospan, un o gyflogwyr mwyaf Wrecsam, wedi bod yn gweithredu yn y Waun ers y 1970au a dyma’r busnes diweddaraf yn yr ardal i gael ymweliad gan yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Nigel Williams.
Clywodd Nigel yn uniongyrchol sut mae’r cwmni, sydd wedi buddsoddi dros £500 miliwn yng nghyfleuster y Waun ers iddo agor, ar hyn o bryd yn edrych ar fuddsoddiadau pellach o fwy na £200 miliwn.
Eglurodd Chris Emery, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Ben Spruce, Prif Swyddog Ariannol, fod ganddynt gynlluniau ar gyfer gosodiadau solar newydd ar draws gofod to’r warws a allai gynhyrchu hyd at 7Mwp. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer system gwres a phŵer cyfun biomas i ddarparu ynni gwres ar gyfer y prosesau cynhyrchu o ynni adnewyddadwy ochr yn ochr â chynhyrchu trydan.
Yn ystod taith o amgylch y safle gwelodd Nigel brosesau’r economi gylchol yn trawsnewid pren wedi’i ailgylchu yn baneli pren o ansawdd uchel, carbon negatif a’r storfa bwrdd awtomataidd o’r radd flaenaf a gwblhawyd yn ddiweddar, gan ddangos dyfodol uwch-dechnoleg i’r cwmni.
Yn dilyn yr ymweliad diolchodd Nigel i Ben a Chris am eu hamser a dywedodd, “O safbwynt y cyngor mae’n wych gweld cwmni lleol gyda chynlluniau buddsoddi uchelgeisiol a fydd yn sicrhau cyflogaeth leol ac yn cefnogi datgarboneiddio Wrecsam.”
Roedd Ben a Chris yn gwerthfawrogi’r ymweliad ac yn cytuno, “Roedd yn gyfle gwych i drafod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol sy’n fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal ac sy’n ein cadw’n gadarn ar ein llwybr i sero net. Edrychwn ymlaen at rannu’r cynlluniau hyn gyda’n grŵp budd-ddeiliaid ehangach yn y misoedd nesaf.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r Archwood Group