Rydym yn cefnogi Wythnos Diogelwch Drysau Tân Tân ac yn galw ar holl landlordiaid Wrecsam i wirio’r drysau tân ar eu heiddo, gan sicrhau fod eu tenantiaid yn eu defnyddio’n gywir. Rydym hefyd yn annog landlordiaid i ymgymryd â’u hasesiadau risg tân eu hunain ar eu heiddo gan ddefnyddio canllawiau a thempled sydd wedi ei ddarparu i ni gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Yn ystod Wythnos Diogelwch Drysau Tân, byddwn yn gweithio i sicrhau fod landlordiaid a perchnogion adeiladau fel ei gilydd yn sicrhau nad ydynt yn rhoi bywydau eu tenantiaid mewn perygl trwy fod â drysau tân sydd wedi eu gosod yn wael, nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth, neu nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gywir.
“Mae drysau tân yn achub bywydau”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae drysau tân yn achub bywydau, a dylai landlordiaid a’u tenantiaid fod yn ymwybodol o sut i wneud yn siŵr eu bod wedi eu gosod yn gywir ac hefyd eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir gan denantiaid. Mae asesiad risg defnyddio i’w gael ar-lein ac rwy’n annog landlordiaid i gymryd mantais ohono yn ystod yr wythnos bwysig hon.”
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Os ydych yn landlord ac yn dymuno cynnal asesiad risg tân ar eich eiddo, gallwch lawrlwytho gwybodaeth ddefnyddiol yma:
Mae rhestr wirio 5 cam ar gyfer Drysau Diogelwch Tân hefyd ar gael. Dyma adnodd sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac y gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un, boed mewn gweithle, cartref neu mewn unrhyw le lle ceir drysau diogelwch tân. GWIRIAD 5 CAM.
“Gadw yn gywir olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw”
Dywedodd Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau: “Mae Gwasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth tuag at leihau tannau a gwella diogelwch mewn anheddau rhent ar draws y sir. Mae’n hanfodol fod landlordiaid yn ymgymryd ag asesiadau risgiau tân ar eu safleoedd er mwyn helpu i sicrhau diogelwch eu tenantiaid. Rydym yn argymell yn gryf fod landlordiaid yn archwilio eu drysau tân yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da ac yn gweithredu fel y dylent, tra’n bod yn atgoffa tenantiaid i sôn wrth eu landlord am unrhyw ddiffygion. Gallai drws tân sydd wedi ei osod, ei gynnal a’i gadw yn gywir olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION