Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lansiad llwyddiannus prosiect ADTRAC newydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Lansiad llwyddiannus prosiect ADTRAC newydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru
Busnes ac addysgY cyngor

Lansiad llwyddiannus prosiect ADTRAC newydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 14, 2018 4:49 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Lansiad llwyddiannus prosiect ADTRAC newydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru
RHANNU

Gwnaeth bron dau gant o bobl fynychu lansiad diweddar prosiect ADTRAC newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Cynnwys
  • Cyfleoedd newydd i bobl ifanc
  • Gwaith partneriaeth

Roedd y ddau ddigwyddiad, a gynhaliwyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah a Chanolfan Adnoddau Plas Pentwyn yng Nghoedpoeth, Wrecsam, yn llawn mynychwyr o bob rhan o’r sectorau gwasanaethau addysg, iechyd, cyfiawnder troseddol, ieuenctid a chyflogaeth.

Bu cynrychiolwyr o bob cwr o’r rhanbarth yn clywed sut mae tîm ADTRAC Dwyrain yn bwriadu cyrraedd targedau uchelgeisiol o gefnogi mwy na 300 o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) dros y ddwy i dair blynedd nesaf yn Wrecsam a Sir y Fflint.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Roedd amseriad y digwyddiadau yn cyd-daro ag ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol iechyd meddwl, Time to Talk, ar draws y DU, gan ystyried canolbwynt y prosiect i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i fynd i’r afael â’u materion iechyd meddwl fel rhwystrau i’w hymgysylltiad mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae lansio prosiect ADTRAC wedi bod yn llwyddiant go iawn ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, mae’r ddau ddigwyddiad wedi bod â phresenoldeb da iawn ac mae lefel y diddordeb yn y prosiect wedi bod yn rhyfeddol.

“Fe fyddwn ni’n adeiladu ar y llwyfan sydd wedi’i greu drwy’r digwyddiadau hyn drwy barhau i weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth eang o sefydliadau lleol i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i ymgysylltu mewn cyfleoedd hyfforddiant, addysg a chyflogaeth mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.”

Cyfleoedd newydd i bobl ifanc

Mae’r prosiect newydd hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig cefnogaeth bersonol i bobl ifanc oresgyn rhwystrau a helpu eu datblygiad i waith, addysg neu hyfforddiant.

Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth un i un gan fentoriaid ADTRAC personol neu ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yn ogystal â hyfforddiant a chyrsiau wedi’u teilwra a ddyluniwyd i ddiwallu anghenion penodol pobl ifanc sy’n ymgysylltu yn y prosiect.

Gwaith partneriaeth

Caiff ADTRAC ei arwain gan Grŵp Llandrillo Menai ar draws Gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.

Fe fydd y prosiect yn seiliedig ar atgyfeiriadau ac mae wedi’i ddylunio i gefnogi gwasanaethau presennol drwy hyrwyddo dull cydweithredol a chydweithio gyda sefydliadau ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Sara Williams, Rheolwr Rhanbarthol 16-24 ADTRAC: “Mae ADTRAC yn fenter £10.4m a gaiff ei harwain gan Grŵp Llandrillo Menai, a’i darparu gan chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Trwy ddarparu mynediad i gyngor a chefnogaeth dibynadwy a gweithio ochr yn ochr â phartneriaid a chyflogwyr, bydd ADTRAC yn sicrhau bod oedolion ifanc yn cael y cyfle gorau posibl i oresgyn y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu ac i gymryd rhan yn effeithiol mewn cymdeithas drwy sicrhau canlyniad cadarnhaol.”

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yn https://www.gllm.ac.uk/adtrac/?LangType=1106 neu cysylltwch â thîm ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint yn: ADTRAC@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am y broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau yn ogystal â hunanatgyfeirio.

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol "Prosiect Gwych a Thrawiadol Iawn" “Prosiect Gwych a Thrawiadol Iawn”
Erthygl nesaf Cyfle i’r merched gyd-chwarae Cyfle i’r merched gyd-chwarae

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English