Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lansio Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint a Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Lansio Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysgY cyngor

Lansio Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint a Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Medi 16, 2021 2:00 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Community
RHANNU

Cynhaliwyd lansiad swyddogol Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd-ddwyrain Cymru yn ddiweddar.

Mae’r Bartneriaeth yn fenter ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd â’r nod o ddarparu’r cyfleoedd a chanlyniadau dysgu gorau posib i oedolion yn ein cymunedau.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Ariennir y Bartneriaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau a darpariaeth addysg i oedolion fel bod pob oedolyn yn medru cael mynediad at y cyrsiau a’r gefnogaeth sydd ar gael.

Meddai Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Phil Wynn:

“Cefais y fraint o gyfrannu at sefydlu’r Bartneriaeth hon ac rwy’n llwyr gefnogol o’i nod o greu darpariaeth gynhwysfawr ym maes dysgu oedolion yn y gymuned yn y ddwy sir.

“Mae hi wedi creu cryn argraff arnaf y ffordd y mae partneriaid yn cydweithio wrth wrando ar ddysgwyr, darparwyr addysg a chyflogwyr a chreu cwricwlwm ar sail hynny sy’n apelio at amrywiaeth o bobl, llawer ohonynt yn dychwelyd i fyd addysg am y tro cyntaf ond eraill hefyd sy’n anelu at wella eu cyfleoedd gyrfa.

“Credaf fod yma rywbeth at ddant pawb ond os oes rhywbeth ar goll fe wnaiff y bartneriaeth bopeth o fewn ei gallu i lenwi unrhyw fylchau a ddaw i’r amlwg.  Byddwn yn annog pawb i fwrw golwg ar beth sydd ar gael ac os ydych chi’n petruso, cofiwch y bydd cymorth a chefnogaeth ar gael wrth ichi gymryd y cam pwysig nesaf yn eich bywyd.”

Mae’r Bartneriaeth yn gweithio â grwp o brif ddarparwyr er mwyn sicrhau bod yr addysg yn bodloni anghenion ein cymunedau, gan gynnwys:

  • Hamdden a Llyfrgelloedd Aura
  • Partneriaeth Parc Caia
  • Coleg Cambria
  • Groundwork Gogledd Cymru
  • Ty Calon – Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r cyfleoedd a chanlyniadau dysgu gorau posib i oedolion yng ngogledd-ddwyrain Cymru, boed hynny drwy gyrsiau blasu i bobl sy’n chwilio am rywbeth newydd i’w diddori a chwrdd â phobl debyg, neu drwy gynnig cymwysterau penodol i bobl sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

“Fel partneriaeth rydym wir wedi’n gwreiddio yn y gymuned a bob amser yn chwilio am syniadau a sylwadau am beth sydd ei angen yn ein cymunedau. Felly, os oes gennych unrhyw syniadau am y mathau o gyrsiau yr hoffech eu gweld, mae croeso ichi gysylltu â ni.”

Os hoffech gael gwybod mwy am y Bartneriaeth a’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys amserlenni tymor yr hydref, cysylltwch â ni.

Ffôn: 07584 335409 E-bost: acl@wrexham.gov.uk

Ewch i’n tudalen Facebook i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael

Community

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Llun o Karen Morris yn ystod ei ‘diwrnod cyntaf yn yr ysgol.’ Karen yn sicrhau’r swydd ddelfrydol mewn ysgol uwchradd yn Wrecsam ar ôl ail-hyfforddi
Erthygl nesaf Mae Noson Gomedi Tŷ Pawb yn dychwelyd ddydd Gwener yma! Mae Noson Gomedi Tŷ Pawb yn dychwelyd ddydd Gwener yma!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English