Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lansio gwell amserlen i fysus Gwasanaeth 34 rhwng Wrecsam a Threfalun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Lansio gwell amserlen i fysus Gwasanaeth 34 rhwng Wrecsam a Threfalun
Y cyngor

Lansio gwell amserlen i fysus Gwasanaeth 34 rhwng Wrecsam a Threfalun

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2026 2:33 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Bus Services
RHANNU

Bydd trigolion yn elwa o amserlen well ar Wasanaeth 34, sy’n cysylltu Wrecsam â Threfalun trwy Pandy, Llai a Burton.

O ddydd Llun 1 Mehefin 2026, bydd y gwasanaeth yn cael ei weithredu gan Arriva Bus Wales a bydd yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac eithrio gwyliau banc.

Bydd y gwasanaeth gwell yn darparu pedair taith i’r ddau gyfeiriad bob dydd, gan gynnig cynnydd sylweddol o’i gymharu â’r amserlen bresennol, sy’n gweithredu ar ddydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn gyda thair taith lawn ar y diwrnodau hynny.

Bydd y llwybr yn parhau i wasanaethu cymunedau gan gynnwys Pandy, Gwersyllt, Bradle, Llai, Burton a Threfalun, gan ddarparu gwell cysylltiadau â Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos.

Bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn defnyddio bws hygyrch llawr isel sy’n fwy o faint, gan wella hygyrchedd i deithwyr.

Efallai y bydd trigolion yn gweld cerbydau Arriva ar y llwybr cyn y dyddiad cychwyn fel rhan o wiriadau amseru ac er mwyn ymgyfarwyddo â’r llwybr.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth Strategol: “Mae hyn yn newyddion i’w groesawu i drigolion ar hyd llwybr Gwasanaeth 34. Y prif welliant yw y bydd y gwasanaeth bellach yn gweithredu 6 diwrnod yr wythnos, yn hytrach na 3, gyda 4 taith i’r ddau gyfeiriad bob dydd.”

“Mae gwasanaethau bws lleol da yn hanfodol i helpu pobl i gael mynediad at siopau, apwyntiadau, gwaith, addysg a chyfleoedd cymdeithasol, a bydd yr amserlen well hon yn darparu gwell cysylltiadau i gymunedau rhwng Wrecsam, Pandy, Llai, Burton a Threfalun.”

“Rwy’n falch ein bod ni, gan weithio gydag Arriva Bus Wales, yn gallu adfer lefel gryfach o wasanaeth ar y llwybr hwn a chefnogi trigolion sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus leol.”

Diwrnod cyntaf yr amserlen newydd fydd dydd Llun 1 Mehefin 2026. Anogir teithwyr i wirio’r amserlen ar wefan Arriva Cymru cyn teithio.

Rhannu
Erthygl flaenorol Hot weather Casgliadau biniau am weddill yr wythnos hon (Mai 27-29)
Erthygl nesaf Housing Repairs Van Cam arall ymlaen o ran lleihau’r gwaith atgyweiriadau sy’n weddill yn Wrecsam ar gyfer Tai Cyngor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English